Mwy o Newyddion
Cyfraith chwyldroadol newydd i gynyddu cyfraddau rhoi organau yn dod i rym yng Nghymru
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system chwyldroadol newydd i gynyddu nifer y rhai sy’n rhoi organau, wrth i’r system honno ddod i rym heddiw (Dydd Mawrth, Rhagfyr 1).
O heddiw ymlaen, bydd Cymru’n dilyn system feddal o optio allan, gan dybio bod pobl 18 oed a throsodd sydd wedi byw yng Nghymru ers dros 12 mis ac sy’n marw yma’n caniatáu rhoi eu horganau oni bai eu bod wedi optio allan. Gelwir hyn yn ganiatâd tybiedig.
Gall pobl sydd am roi organau gofrestru eu penderfyniad i optio i mewn neu wneud dim, a fydd yn golygu nad ydynt yn gwrthwynebu rhoi organau. Gall pobl sy’n gwrthwynebu rhoi organau optio allan ar unrhyw adeg.
Gallai’r newid i’r gyfraith sy’n dod i rym heddiw arwain at gynnydd o 25% yn nifer y bobl sy’n rhoi organau.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf, bu farw 14 o bobl yng Nghymru wrth aros am drawsblaniad yn ystod 2014-15. Ar hyn o bryd mae 224 o bobl ar y rhestr aros am drawsblaniad yng Nghymru, gan gynnwys 8 o blant, o gymharu â 209 ddiwedd mis Mawrth 2014.
Mae canlyniadau’r arolygon diweddaraf a fydd yn cael eu rhyddhau yn hwyrach heddiw yn dangos bod 69% o bobl Cymru’n ymwybodol o’r newidiadau ynghylch rhoi organau, o gymharu â 63% yn gynharach eleni. Mae tipyn o ddealltwriaeth o’r gyfraith newydd hefyd, gydag wyth o bob 10 person sy’n ymwybodol o’r newidiadau yn medru eu disgrifio.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford: “Rydyn ni’n cymryd cam hanesyddol yng Nghymru heddiw, cam a fydd yn achub bywydau. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 14 o bobl wedi marw llynedd yng Nghymru wrth aros am drawsblaniad.
“Bydd newid i ddilyn system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau yn chwyldroadol. Mae rhoi organau yn achub bywydau; mae cynyddu’r raddfa o roi organau yn caniatáu i ni achub mwy o fywydau. Dyna’r prif ysgogiad ar gyfer y newid pwysig hwn. Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf mae llawer wedi’i gyflawni i wella arferion meddygol ym maes rhoi organau, ond os ydyn ni am weld cynnydd pellach mae angen naid yn y cyfraddau caniatâd, a dyna’r rheswm dros newid y gyfraith.
“Gobeithio bydd y newid hwn yn annog pobl i siarad gyda’u teuluoedd am eu dymuniadau ynghylch rhoi organau. Rydyn ni wedi gweithio’n ddiflino i roi cyhoeddusrwydd i’r newid a’r dewisiadau sydd gan bobl dan y system newydd. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod yr ymwybyddiaeth a’r ddealltwriaeth wedi parhau i gynyddu ac rwy’n fodlon ein bod wedi gwneud pob ymdrech bosib i gyrraedd at y cyhoedd ar y mater hwn.”