Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Tachwedd 2015

Cefnogaeth i’r stryd fawr ar Sadwrn y Busnesau Bach

Wrth i lai a llai o bobl siopa ar y stryd fawr yng Nghymru, mae Plaid Cymru wedi gosod allan eu cynlluniau i gefnogi’r stryd fawr yn lleol yng Nghymru. Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli Helen Mary Jones y gall Plaid Cymru drawsnewid y stryd fawr, gan amlinellu cynlluniau Plaid Cymru i gefnogi siopau bach neu annibynnol ar hyd a lled Cymru, ac i annog siopwyr i ystyried eu stryd fawr leol wrth iddynt siopa

Ymysg cynlluniau Plaid Cymru mae:

* Canolbwyntio ar brynu’n lleol fel bod cyrff cyhoeddus yn rhoi mwy o gontractau i gwmniau lleol, gan gadw arian yn yr economi leol a chreu hyd at 50,000 o swyddi ychwanegol  yng Nghymru

* Cynllun rhyddhad trethi busnes fyddai’n helpu 83,000 busnes yng Nghymru ac yn cymryd 70,000 o fusnesau allan o drethi busnes yn gyfan gwbl

* Helpu busnesau bach i gael y cyllid mae arnynt ei angen trwy sefydlu banc busnes Cymreig.

Dywedodd Helen Mary Jones fod y dirywiad yn nifer y siopwyr ar y stryd fawr yng Nghymru yn achos pryder. Dengys y ffigyrau diweddaraf fod nifer y rhai oedd yn siopa ar y stryd fawr yng Nghymru wedi cwympo o 4.4% ym mis Gorffennaf yn yr un cyfnod llynedd.

Dywedodd fod canol tref Llanelli yn enghraifft amlwg o stryd fawr mewn anhawster yn yr hinsawdd economaidd presennol.

Meddai: “Busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru. Hwy yw 98% o holl fusnesau Cymru ac y  maent yn hanfodol i’n heconomi. Ond mae’r dirywiad yn nifer y rhai sy’n siopa ar y stryd fawr yn profi nad yw’r adferiad economaidd yn cyrraedd pob rhan o’n cymunedau.

“Mae cwmniau bach yn ail-wario yn lleol ryw 63c o bob punt maent yn dderbyn, felly mae’n bwysig o ran cadw arian yn cychdroi yn yr economi lleol. Gwyddom hefyd, ar draws y DG, fod cwmniau bach lleol yn cynhyrchu 58% yn fwy o fudd economaidd i’r economiau lleol na chwmniau mawr. Mae’r ffigyrau yn siarad drostynt eu hunain: mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi ein busnesau bach. 

“Mae’r gystadleuaeth o du cwmniau mawr aml-wladol a masnachu ar y rhyngrwyd yn ei gwneud yn anodd iawn i fasnachwyr bach lleol i gystadlu, ond byddai llywodraeth  Plaid Cymru yn cyflwyno cyfres o fesurau i gefnogi busnesau a’u helpu i lwyddo.

“Trwy ysgafnhau’r baich trethi busnes, ei gwneud yn haws iddynt gael cyllid a chynyddu nifer y contractau sector cyhoeddus a ddyfernir i fusnesau bach, gallwn gryfhau economiau lleol a chadw’r bunt Gymreig yn cylchdroi yn lleol.

“Plaid Cymru yw plaid y stryd fawr, a gall ein polisiau adfywio canol ein trefi.”

Rhannu |