Mwy o Newyddion
-
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn rhagori ar ei darged wyth munud
25 Tachwedd 2015Mae ffigyrau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod bron i 70% o bobl a oedd â salwch neu anafiadau a oedd yn rhoi bywyd yn y fantol wedi cael ymateb brys o fewn wyth munud yn ystod mis cyntaf cynllun peilot a gynhelir dros flwyddyn i brofi newidiadau i Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Darllen Mwy -
Croesawu pwerau treth incwm heb refferendwm
25 Tachwedd 2015Mae Jonathan Edwards AS Llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, wedi croesawu cyhoeddiad heddiw yn yr Adolygiad Gwariant yn nodi y bydd Cymru yn derbyn pwerau treth incwm heb refferendwm - buddugoliaeth i Blaid Cymru, y cyntaf i ddadlau am newid o'r fath. Darllen Mwy -
Cyngor Cymuned Cynwyd: Adroddiad yr Ombwdsmon 'yn anghywir'
24 Tachwedd 2015Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi codi cwestiynau am gywirdeb cyfreithiol adroddiad yr Ombwdsmon am bolisi iaith cyngor cymuned Cynwyd. Darllen Mwy -
Y potensial i arbed £650 miliwn trwy gael llai o Gynghorau
24 Tachwedd 2015Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd diwygio llywodraeth leol yng Nghymru yn darparu arbedion net hyd at £650 miliwn dros ddeng mlynedd. Darllen Mwy -
Cynlluniau rhan olaf prosiect deuoli Blaenau'r Cymoedd yn cael eu harddangos
24 Tachwedd 2015Bydd cynlluniau arfaethedig ar gyfer rhan olaf prosiect deuoli Blaenau'r Cymoedd yr A465 gwerth £800m yn cael eu harddangos y mis nesaf. Darllen Mwy -
Cost trident yn cynyddu i £2,800 y pen
24 Tachwedd 2015Cyn cyfrannu i ddadl yr wrthblaid ar Trident yn San Steffan heddiw, mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams AS wedi beirniadu’r amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer adnewyddu’r system arfau niwclear, gan alw am gael gwared arni yn gyfan gwbl. Darllen Mwy -
Enwogion yn galw ar y Ceidwadwyr i gadw at addewid cyllid S4C
23 Tachwedd 2015Mae'r bardd Benjamin Zephaniah a'r dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens ymysg nifer o enwogion sydd wedi anfon llythyr agored at David Cameron yn galw ar y Ceidwadwyr i gadw at eu haddewid i 'ddiogelu' cyllideb S4C. Darllen Mwy -
Ehangu addysg Gymraeg
23 Tachwedd 2015Mae angen gosod targed o gael 50% o ddisgyblion 7 oed mewn addysg Gymraeg erbyn 2030. Darllen Mwy -
Bws o Lŷn i Ysbyty Gwynedd
20 Tachwedd 2015Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio gyda gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol O Ddrws i Ddrws i dreialu cynllun bws sy’n cludo pobl o Lŷn i Ysbyty Gwynedd, Bangor. Darllen Mwy -
Noson wych i dîm Plaid Cymru Gwynedd
20 Tachwedd 2015Enillodd Plaid Cymru Gwynedd sedd oddiwrth Llais Gwynedd yn Is Etholiad Llanaelhaearn, Cyngor Gwynedd neithiwr (19 Tach) a chadw sedd Dewi ym Mangor. Yn ogystal, cadwodd Plaid Cymru sedd Cyngor Dinas Bangor. Darllen Mwy -
Annog dathliad i ddilynwyr pêl-droed Cymru cyn pencampwriaethau Ewrop
20 Tachwedd 2015Mae llefarydd Plaid Cymru ar Chwaraeon, Bethan Jenkins AC, wedi galw eto am gynnal digwyddiad dathlu i beldroedwyr Cymru cyn iddynt adael am Bencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc y flwyddyn nesaf. Darllen Mwy -
Llywodraeth Lafur yn anwybyddu eu canllawiau eu hunain trwy ddileu cylchgrawn ‘Gwlad’
20 Tachwedd 2015Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o dorri eu canllawiau eu hunain ar ymwneud y cyhoedd wedi iddynt gyhoeddi cynlluniau i roi’r gorau i’r fersiwn brintiedig o ffynhonnell allweddol o wybodaeth i ffermwyr. Darllen Mwy -
Rali Cymru GB yn cael ei galw'n llwyddiant ysgubol
19 Tachwedd 2015Mae swyddogion, marsialyddion a gwylwyr i gyd wedi’u canmol am helpu i wneud Rali Cymru GB 2015 yn llwyddiant ysgubol – er i’r gwynt a’r glaw wneud eu gorau glas i daflu pethau oddi ar y cledrau. Darllen Mwy -
Côr bechgyn yn dychwelyd i lwyfan y Pafiliwn ar gyfer cyngerdd Nadolig yr Eisteddfod
19 Tachwedd 2015Mae côr bechgyn a gafodd gymeradwyaeth frwd ar ôl canu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen y llynedd yn dychwelyd i berfformio yng nghyngerdd Nadolig yr ŵyl. Darllen Mwy -
Comisiynydd Heddlu’n apelio am gymorth y cyhoedd i greu cynllun newydd
19 Tachwedd 2015Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn annog pobl o bob rhan o Ogledd Cymru i’w helpu i lunio ei gynllun newydd ar gyfer plismona yn yr ardal Darllen Mwy -
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Llinell Gymorth Paris Cymru
18 Tachwedd 2015Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod llinell gymorth wedi cael ei sefydlu i helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan yr ymosodiadau terfysgol ym Mharis. Darllen Mwy -
Miliwn o bobl i elwa ar gyfraith bwysig, newydd Rhentu Cartrefi
18 Tachwedd 2015Mae cyfraith arloesol wedi cael ei phasio yn y Senedd i wella bywydau miliwn o bobl yng Nghymru sy'n rhentu eu cartrefi. Darllen Mwy -
Adnewyddu Trident yw’r ateb anghywir i’r cwestiwn anghywir
18 Tachwedd 2015Dylai llywodraeth y DG ddileu ei rhaglen hen-ffasiwn i adnewyddu Trident er mwyn buddsoddi mewn mesurau fydd yn gwneud ein cymunedau yn fwy diogel, dywedodd Plaid Cymru heddiw. Darllen Mwy -
Mwy o alw am fanciau bwyd yng Nghymru yn achos pellach dros amddiffyn credydau treth
18 Tachwedd 2015Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi ymateb i ffigyrau sy’n dangos, rhwng Ebrill a Medi 2015 fod nifer y bobl a dderbyniodd werth tridiau o fwyd mewn argyfwng gan fanciau bwyd yn 39,245, cynnydd o’r un amser llynedd. Darllen Mwy -
Strategaeth Ynni y DG y tu ôl ymlaen, medd Plaid Cymru
18 Tachwedd 2015Mae Gweinidog Ynni cysgodol Plaid Cymru Llyr Gruffydd wedi dweud fod strategaeth ynni newydd y DG “y tu ôl ymlaen” gan ddweud y bydd yn golygu y bydd pwerdai nwy yn tra-arglwyddiaethu ar y cyflenwad ynni pan allai weithredu fel ffynhonnell wrth gefn i ffynonellau adnewyddol glanach a rhatach. Darllen Mwy