Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Tachwedd 2015

Cofio dau o fawrion Cymru

Trefnir noson i gofio bywydau dau o sylfaenwyr Plaid Cymru yng Ngwaelod y Garth am 7.30pm, Nos Iau 3 Rhagfyr 2015 yng nghapel Bethlehem.

Testun y noson, a gynhelir gan Gymdeithas Hanes Plaid  Cymru, yw'r Athro Griffith John Williams a'i wraig Elisabeth, a fu'n allweddol wrth ffurfio'r Blaid yn ystod yr 1920au.

Yn eu cartref yn Bedwas Place, Penarth y cynhaliwyd cyfarfod yn 1924, gyda Saunders Lewis ac Ambrose Bebb yn bresennol, a agorodd y ffordd i lansio Plaid Cymru'r flwyddyn ganlynol - gydag Elisabeth yn drafftio'r cofnodion.

Bu Griffith John Williams (1892-1963) yn athro Prifysgol, yn fardd ac yn ysgolhaig Cymreig a enillodd fri am ei astudiaeth wreiddiol o yrfa Iolo Morgannwg. 

Ymhlith ei gyfraniadau oedd pamffledyn a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru am draddodiad Cymreig Gwent a amlinellodd hawl yr hen Sir Fynwy i'w hystyried ei hun i fod yn rhan annatod o Gymru ddegawdau cyn sicrhau ei statws.

Roedd ei wraig Elisabeth hefyd yn enwog am ei chefnogaeth ddiwyro o'r iaith Gymraeg a'r ffordd Gymreig o fyw - wrth fynnu bod cofnodion o Gyngor Plwyf Pentyrch yn cael eu cadw yn y Gymraeg,

Sonnir yn yr ardal fel y byddai Mrs Williams yn cerdded heb wahoddiad i mewn i'r ysgol i ddysgu Cymraeg i'r plant, meddai ei nai, cyn-arweinydd Plaid Cymru Cyngor Merthyr, Emrys Roberts.

Yn ystod gweithgareddau'r noson bydd yr Athro E. Wyn James yn annerch ar y testun “Gweld gwlad fawr yn ymagor: breuddwyd cyffrous G. J. Williams a Saunders Lewis" tra bydd aelodau o’u teuluoedd - Elenid Jones ac Emrys Roberts - yn rhannu eu hatgofion amdanynt.

Hefyd bydd arddangosfa o ran o'r eiddo a gafodd ei adael gan y cwpl i Amgueddfa Sain Ffagan.

Lluniau: Griffith John Williams a'r Athro E. Wyn James

Rhannu |