Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Rhagfyr 2015

Plaid Cymru yn galw am gyflymu trydaneiddio’r rheilffyrdd

Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno cynnig yn gresynnu at yr oedi pellach cyn trydaneiddio’r brif reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe.

Cyflwynwyd y datganiad o farn yn y Cynulliad Cenedlaethol gan yr Aelodau Cynulliad Simon Thomas a Bethan Jenkins. Mae’r cynnig yn galw am i lywodraethau weithio ynghyd i beri i drydaneiddio rheilffyrdd yng Nghymru ddigwydd.

Dywedodd Simon Thomas: "Mae’n siom enbyd fod dyddiad cychwyn trydaneiddio wedi ei roi yn ôl eto fyth. Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DG a Llywodraeth Cymru i weithio i wneud yn siwr fod trydaneiddio ein rheilffyrdd yn digwydd ledled Cymru.

"Os methant wneud hynny, byddant yn difetha’r waddol a adawyd gan Blaid Cymru mewn llywodraeth pan weithiodd Ieuan Wyn Jones fel Gweinidog Trafnidiaeth Cymru yn ddiflino i wneud trydaneiddio yn flaenoriaeth. Bydd y trydaneiddio i Abertawe yn hwb go-iawn nid yn unig i’r ddinas ond i holl economi’r gorllewin."

Ychwanegodd  Bethan Jenkins: “Ar y naill law, mae gennym Lywodraeth Geidwadol yn y DG yn amharod neu’n analluog i gyflwyno prosiectau seilwaith mawr, ac ar y llaw arall, mae gennym Lywodraeth Lafur Cymru yn amharod neu’n analluog i bwyso arnynt i fwrw ymlaen â’r gwaith.

“Yn y cyfamser, mae economi de-orllewin Cymru a thu hwnt ar ei cholled. Cyflwynwyd y datganiad barn hwn fel dull o gynnu tân dan y ddwy weinyddiaeth fel ei gilydd, ac yr wyf yn gobeithio y bydd ACau eraill sy’n teimlo’r un mor rhwystredig â ni yn atodi eu henwau i’r hyn mae’n galw amdano.”

Llun: Bethan Jenkins

Rhannu |