Mwy o Newyddion
Mae ffliw wedi cyrraedd Cymru – ond mae LLAI o bobl wedi cael eu brechiad ffliw
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru wedi galw ar y cyhoedd i ddiogelu eu hunain rhag ffliw cyn gynted â phosib, gan fod adroddiadau am yr achosion cyntaf o ffliw yn dechrau cyrraedd.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod ffliw wedi cyrraedd Cymru. Mae’n annhebyg fod y firws yn cylchredeg yn helaeth eto, ond cadarnhawyd 17 achos hyd yn hyn, o gymharu â chwech ar yr un pryd y llynedd.
Mae adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan yr ONS wedi ychwanegu at y pryder, a ddatgelodd fod marwolaethau ‘gormodol’ yn cyfrif am chwarter (25.4%) o holl farwolaethau’r gaeaf yng Nghymru y llynedd. Mae hyn yn fwy na dwbl y flwyddyn gynt (2,600 yn 2014/15 o gymharu â 1,010 yn 2013/14). Roedd y rhan fwyaf o’r marwolaethau ymhlith pobl hŷn, ond effeithiwyd pobl o bob oed.
Mae’n destun pryder y nodwyd fod ffliw yn un o’r prif achosion a gyfrannodd at y marwolaethau hyn. Ond mae llai o bobl wedi cymryd eu brechiad ffliw rhad ac am ddim gan y GIG, a dim ond 59% o bobl 65 oed a throsodd a 39% o bobl iau a chanddynt ffactorau risg ffliw gafodd eu brechu, ac mae’r niferoedd yn y ddau grŵp yma’n is na’r un pryd y llynedd.
Mae’r Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Heintiau y Gellir eu Hatal trwy Frechlyn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn dweud: “Mae’r ystadegau sydd ar gael hyd yn hyn eleni yn destun pryder – gwelsom fwy o achosion wedi’u cadarnhau o ffliw, ond mae llai o bobl wedi cael y brechlyn. Mae hwn yn gyfuniad pryderus iawn.
“Efallai fod adroddiadau am effeithiolrwydd brechlyn ffliw y llynedd wedi gwneud i rai pobl benderfynu peidio cael eu brechiad GIG rhad ac am ddim yr hydref hwn. Diogelodd draean o’r sawl a frechwyd yn hytrach na’r ddau draean arferol. Hoffwn bwysleisio fod y brechlyn fel arfer yn cyfateb yn dda i’r firysau ffliw y gwelwn yn achosi salwch. Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu nad yw’r firysau sy’n gyfrifol am yr achosion a welsom yn ddiweddar yn cysylltu â’r brechlyn ffliw.
“Cael y brechiad ffliw yw’r amddiffyniad gorau rhag ffliw o hyd, ac rwyf yn pwyso’n drwm ac o ddifrif ar bawb mewn grwpiau iechyd risg allweddol i’w gael yn awr, os na wnaethant yn barod.
"Gan amlaf mae’r brechlyn yn cynnig amddiffyniad rhag tri math gwahanol o firws ffliw, ac fe welsom y tri math yma o ffliw yn barod yng Nghymru yn ystod yr hydref hwn.
"Hyd yn hyn, nid ydym ond wedi gweld lefelau isel o ffliw ac mae nifer yr achosion fel arfer yn codi rhwng y cyfnod yma â’r Nadolig, sy’n golygu fod amser i gael eich brechlyn o hyd.
"Gall ffliw achosi cymhlethdodau difrifol i rai pobl, gan gynnwys pobl 65 oed a throsodd, menywod beichiog a phobl a chanddynt gyflyrau meddygol hirdymor. Mae’r grwpiau hyn yn wynebu mwy o risg o fynd yn sâl/dost iawn gyda ffliw na’r boblogaeth yn gyffredinol - a dyna pam mae’r brechlyn ar gael yn rhad ac am ddim ar y GIG i’r holl grwpiau mwyaf bregus hynny.
"Brechiad rhag ffliw yw’r ffordd unigol orau o hyd o gael eich diogelu rhag ffliw, a gellir ei roi i bobl mewn grwpiau risg o 6 mis.
Mae gan Angharad Phillips, Cydlynydd ‘Lledaenu’r Gwres’ Age Cymru, neges debyg i bobl na chawsant eu brechiad rhad ac am ddim eto: “Mae’r cynnydd brawychus hwn mewn marwolaethau gaeaf ymhlith pobl hŷn - yr uchaf y ganrif hon, yn danfon neges glir i bob un ohonom am ba mor bwysig yw gofalu am ein hiechyd yn ystod misoedd oer y gaeaf.
“Roedd y prif straen ffliw y gaeaf diwethaf yn un a effeithiodd bobl hŷn yn fwy difrifol na grwpiau oed eraill, ac mae’n amlwg y cyfrannodd hynny at y cynnydd enfawr yn nifer y marwolaethau gaeaf a welsom ymhlith pobl dros 65.
“Y ffaith yw o hyd mai brechiad ffliw y gaeaf yw’r amddiffyniad mwyaf effeithiol sydd ar gael rhag ffliw tymhorol.”
Caiff firws y ffliw ei wasgaru trwy ddiferion sy’n cael eu chwistrellu i’r awyr pan mae person sydd wedi’i heintio yn pesychu neu’n tisian. Mae cyswllt uniongyrchol â dwylo neu arwynebau a heintiwyd hefyd yn gallu gwasgaru’r haint. Gall ledu’n gyflym iawn, yn enwedig felly mewn cymunedau caeedig fel ysbytai, cartrefi preswyl ac ysgolion. Cafodd y rhan fwyaf o’r achosion a gadarnhawyd yng Nghymru y tymor hwn eu hachosi gan firws Ffliw A(H1N1), oedd yn gyfrifol am bandemig ‘ffliw moch’ yn 2009 a 2010.
Mae’r rhaglen brechiadau ffliw flynyddol yn ceisio sicrhau bod pawb sydd ei angen yn cael amddiffyniad am ddim bob blwyddyn rhag y ffliw. Mae hefyd ar gael i gynhalwyr, a ddylai gael y brechlyn i ddiogelu eu hunain a’r person y maent yn gofalu amdano/i.
Mae pob plentyn dwy a thair oed ar 31 Awst 2015, a phlant yn y dosbarth derbyn, blwyddyn un a blwyddyn dau yn yr ysgol (plant 4 – 6 oed yn gyffredinol) hefyd yn cael cynnig cael eu diogelu gan frechlyn ffliw chwistrell trwyn. Bydd y plant dwy a thair oed yn cael eu brechlyn chwistrell trwyn yn eu meddygfa leol a bydd plant yn y dosbarth derbyn, blwyddyn un a blwyddyn dau yn cael cynnig eu brechlyn chwistrell trwyn yn yr ysgol.
Gallwch gael gwybod mwy am sut i gael eich brechlyn GIG trwy fynd i www.beatflu.org.uk neu www.curwchffliw.org.uk, neu trwy ddod o hyd i Beat Flu neu Curwch Ffliw ar twitter a facebook.
Os nad ydych yn siŵr a ydych mewn grŵp risg ai peidio, holwch eich meddygfa leol neu fferyllfa gymunedol.