Mwy o Newyddion
Oedi cyn trydaneiddio rheilffordd
Wrth ymateb i'r newyddion y bydd oedi cyn trydaneiddio rheilfordd y Great Western hyd at rhywbryd rhwng 2019 a 2024, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys Jonathan Edwards AS: "Mae'r cyhoeddiad hwn yn cadarnhau ofnau mae Plaid Cymru wedi eu lleisio ers sbel bellach.
"Mae'r blaid Geidwadol yn torri addewid maniffesto a wnaed i bobl Cymru cyn yr Etholiad Cyffredinol.
"Heb os bydd nifer nawr yn amau a fydd Llywodraeth y DG fyth yn cwblhau'r trydaneiddio i Abertawe - rhywbeth a fyddai'n siom fawr i economi gorllewin ein gwlad.
"Mae hi'n hen bryd i Lywodraeth y DG fod yn glir ynglyn a chyfanswm taliadau iawndal 'Schedule 4' i gwmniau rheilffordd preifat. Mae yna le i gredu fod hyn yn rhannol gyfrifol am y cynnydd yn nghost trydaneiddio.
"Dim ond wythnos diwethaf death ffigyrau i'r amlwg yn dangos dros y degawd diwethaf dan lywodraethau Llafur a Cheidwadol, dim ond 45 milltir o 9,793 milltir o reilffordd y DU a gafodd ei drydaneiddio - a dim un milltir yng Nghymru.
"Ar ddiwrnod yr Adolygiad Gwariant, mae'r Ceidwadwyr yn euog o gladdu newyddion drwg. Dyma gam sinigaidd er mwyn ceisio osgoi craffu ar eu methiant i ddelifro dros Gymru."