Mwy o Newyddion
BBC Cymru yn cadarnhau gwerthu safleoedd Llandaf
Mae BBC Cymru wedi cadarnhau bod ei safleoedd yn Llandaf wedi eu gwerthu i Taylor Wimpey, un o ddatblygwyr preswyl mwya’r DU. Daeth y cadarnhâd yn fuan ar ôl sêl bendith terfynol y BBC i adleoli i ganolfan ddarlledu newydd yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd.
Bydd gwerthu safleoedd Llandaf yn helpu i ariannu’r ganolfan ddarlledu newydd a disgwylir i’r symud ddigwydd yn ystod 2019.
Mae adroddiad annibynnol diweddar gan BOP Consulting yn rhagweld effaith economaidd ychwanegol o tua £1.1biliwn dros ddeng mlynedd yn sgîl penderfyniad y BBC i symud i’r Sgwâr Canolog.
Bydd codi 400 o gartrefi ar y safleoedd – ac mae Taylor Wimpey wedi derbyn Caniatâd Cynllunio Amlinellol yn ddiweddar – yn cyfrannu at yr effaith economaidd yma drwy werth y gwaith adeiladu a’r hwb economaidd a grëir gan y tai ychwanegol o safon uchel, fydd yn ateb y galw cynyddol amdanynt yn rhanbarth dinas Caerdydd.
Yn ôl Taylor Wimpey, amcangyfrifir y bydd tua 100 o swyddi adeiladu’n cael eu creu a thua 300 arall yn y gadwyn gyflenwi yn ystod datblygu safleoedd Llandaf.
Dywedodd Gareth Powell, Prif Swyddog Gweithredol BBC Cymru: “Tra’n bod yn gadael Llandaf gydag atgofion melys dros 50 mlynedd, r’yn ni’n edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous yn y Sgwâr Canolog, ble byddwn yn gobeithio gwasanaethu ein cynulleidfaoedd am ddegawdau i ddod.
“Mae symud i’r Sgwâr Canolog yn hanfodol. Bydd yn datrys y sialensau a’r cyfyngiadau cynyddol ar ein technoleg a’n hadeiladau ac yn cynnig posibiliadau creadigol arbennig fydd o fudd i’n cynulleidfaoedd.
“Mae’r symud yn gwneud synnwyr da yn ariannol hefyd – mae’n hynod bwysig ein bod yn rhoi’r gwerth gorau posib am arian i’r rhai sy’n talu’r drwydded ac yn enwedig felly o gofio’r sialensau economaidd presennol.
"Bydd y buddsoddiad hefyd yn sbardun i fanteision economaidd ehangach a chyfleoedd cyflogaeth newydd, tu hwnt i’r diwydiannau creadigol.”
Ers i’r drysau agor ym 1966, mae miloedd o oriau o raglenni wedi eu cynhyrchu yn y Ganolfan Ddarlledu.
Dyma gartref presennol Radio Wales, Radio Cymru, teledu BBC Cymru, y gwasanaethau ar-lein a’r rhaglenni a wneir i S4C.
Mae nifer fawr o raglenni sy’n cael eu gweld ar draws y DU yn cael eu cynhyrchu yn Llandaf, gan gynnwys Crimewatch, Bargain Hunt a Coast.
Mae Llandaf hefyd yn gartref i rai o weithgareddau’r BBC ar draws y DU, gan gynnwys y ganolfan gyllid a phensiynau.
Cynghorwyd y BBC gan eu hymgynghorwyr eiddo Lambert Smith Hampton.