Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Tachwedd 2015

Cau swyddfa treth Port yn ergyd i’r economi leol

MAE Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried cynlluniau i gau pob swyddfa treth yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys unig ganolfan alwadau Cymraeg HMRC ym Mhorthmadog. 

Dywedodd yr Aelod Seneddol y dylai ad-drefnu eithafol o’r fath fod yn destun craffu trylwyr ar lefel cyhoeddus a seneddol.

Wrth siarad mewn dadl ar gau swyddfeydd Cyllid a Thollau yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Mrs Saville Roberts fod angen rhoi sylw i faterion sy’n benodol unigryw i Gymru cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar ddyfodol y gwasanaeth.

Mae hi hefyd yn annog y Llywodraeth i ystyried pwysigrwydd cadw swyddi sector cyhoeddus sy’n talu’n dda mewn economi cyflog isel fel Dwyfor Meirionnydd.

Cyhuddodd Liz Saville Roberts HMRC o fethu â thrin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, gan fwrw amheuaeth ar honiadau y gall y gwasanaeth Cymraeg gael ei gynnal yr un mor effeithiol o Gaerdydd.

Meddai: “Mae’r Llywodraeth wedi bod yn datgymalu gwasanaethau treth yng Nghymru ers dros 15 mlynedd.

“Mae’r cyhoeddiad diweddar yma yn ychwanegol i’r 10,000 o swyddi a gollwyd yn HMRC dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae’r cynlluniau yma yn nodi’r yr hoelen olaf yn arch y gwasanaeth treth sydd wedi gwasanaethu pobl Cymru yn dda.

“Mae’r swyddfa Cyllid a Thollau ym Mhorthmadog unwaith eto wedi ei glustnodi ar gyfer ei chau.

“Mae’n gartref i’r ganolfan alwadau Gymraeg ac mewn sefyllfa dda i ddenu staff sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, yn gwasanaethu y rhan o Gymru lle mae’r galw am wasanaethau Cymraeg ar ei uchaf.

“Y tu hwnt i gyfrifoldebau dros yr iaith Gymraeg ym Mhorthmadog, mae ymrwymiad HMRC yn syrthio llawer yn rhy fyr o’r gofyniad statudol i drin y Gymraeg a’r Saesneg gyda cydraddoldeb wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a’r cynnig yw y gall y gwasanaeth yma gael ei ddarparu yr un mor effeithiol o Gaerdydd.

“Mae Gwynedd yn gartref i 77,000 o siaradwyr Cymraeg, 65.4% o boblogaeth y sir. Mae gan Gaerdydd lai na hanner y nifer o siaradwyr Cymraeg.

“Dylai’r ad-drefnu arfaethedig yma gan y Llywodraeth fod yn destun craffu trylwyr ar lefel cyhoeddus a seneddol; mae’n rhaid mynd i’r afael â materion sy’n benodol unigryw i Gymru cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

“Dylid cael adolygiad i fynd i’r afael â’r newidiadau i’r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg, fel sy’n ofynnol o dan gynlluniau iaith Gymraeg yn y sector cyhoeddus.

“Yn ail, dylid ceisio barn Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn nodi gofynion gweinyddol ddatganoli pwerau treth bellach i Gymru.

“Dylai’r Llywodraeth dalu sylw ac ystyried effaith gwirioneddol y cynlluniau hyn; ar wasanaethau Cyllid a Thollau yng Nghymru, ei gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg ac arwyddocâd swyddi sy’n talu’n dda i economi cyflog isel fel Dwyfor Meirionnydd.”

Rhannu |