Mwy o Newyddion
Diwedd cyfnod i Cyfle
Wedi 30 mlynedd o wasanaeth darparu hyfforddiant i unigolion a chwmniau ym maes y diwydiannau creadigol a digidol, penderfynodd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cyfle ddirwyn y cwmni i ben ddiwedd Ddydd Llun, Tachwedd 30.
Dywedodd Cadeirydd Cyfle, Gareth Jones: "Mae’r penderfyniad i gau’r cwmni yn un tu hwnt o anodd, o ystyried yr oll a gyflawnodd y cwmni ers ei sefydlu ym 1986.
"Mae llwyddiant y diwydiannau creadigol yng Nghymru heddiw, yn rhannol ddyledus i effeithiolrwydd ac ansawdd y gwasanaeth a ddarparwyd gan Cyfle, yn wreiddiol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ond wedyn yn hollol ddwyieithog.
"Mae hefyd yn benderfyniad trist gan ein bod yn colli pedair swydd yng Nghaernarfon a Chaerdydd – aelodau staff sydd ag arbenigedd yn y maes ac sydd wedi rhoi gwasaneth clodwiw a diflino i’r cwmni. Mawr yw ein dyled fel Bwrdd iddynt."
Hyfforddwyd oddeutu 600 o bobl o led-led Cymru, gweddill y DU ac yn rhyngwladol ar gyrsiau hyfforddi llawn a rhan amser Cyfle ers 1986.
Yn ychwanegol i hyn mae cannoedd yn fwy wedi derbyn hyfforddiant ar ffurf cyrsiau byrion gan y cwmni.
Mae unigolion a hyfforddwyd gan Cyfle yn gweithio ar bron bob un cynhyrchiad, ac i bron bob un cwmni cyfryngol yng Nghymru bellach.
Mae’r blynyddoedd diweddar wedi bod yn eithriadol o heriol i’r cwmni. Mae’r amgylchiadau a’r newidiadau ariannol, economaidd, technolegol ac addysgol wedi gorfodi sawl ad-drefnu ac ail-gynllunio i ddarparu hyfforddiant fyddai’n gost effeithiol ac yn werth da am arian.
Cafwyd cefnogaeth gref iawn gan gyrff allweddol megis S4C a Creative Skillset Cymru a dylid cydnabod hynny.
Yn anffodus, erbyn heddiw, yn erbyn cefndir o gynni ariannol, mae anghenion cwmniau annibynol ac unigolion o ran hyfforddiant a’r dulliau o ddarparu hynny yn llawer mwy cyfyng a chystadleuol, ac yn creu ansicrwydd ariannol i unrhyw strategaeth gall gwmni fel Cyfle, ei gynllunio i’r dyfodol.
Dywedodd Gareth Jones: "Nid yw’n amhosib, wrth gwrs, ymateb i’r her fodern yma, ond mae angen strategaeth a fframwaith ddarparu genedlaethol tra gwahanol i’r un a ddatblygwyd ac a fabwysiadwyd gan Cyfle yn hynod llwyddiannus, yn mlynyddoedd olaf y ganrif ddiwethaf.
"Mae angen gwirioneddol yn y maes i randdeiliaid yn genedlaethol, gydweithio a datblygu strategaeth gydlynys a chynaliadwy fyddai’n fodd i sicrhau twf a swyddi mewn maes sy’n tangyrraedd ran potensial a’r gallu i drawsnewid rhan sylweddol o economi Cymru."