Mwy o Newyddion
Castell Caernarfon yn croesawu pabis Tŵr Llundain
Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd un o’r cerfluniau eiconig o babis yn dod i Gymru, i’w arddangos yng Nghastell Caernarfon y flwyddyn nesaf.
Bydd y Weeping Window, a fu’n rhan o’r arddangosfa wreiddiol Blood Swept Lands and Seas of Red, yn agor yng Nghastell Caernarfon ar 12 Hydref 2016, a chaiff ei gyflwyno yn arbennig gan 14-18 NOW er mwyn nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd ar gael i’w weld yn y castell hyd 20 Tachwedd 2016, sy’n golygu y bydd yn ei le ar gyfer Sul y Cofio a chanmlwyddiant diwedd Brwydr Somme.
Mae Wave a Weeping Window yn rhan o’r arddangosfa Blood Swept Lands and Seas of Red a fu yn Nhŵr Llundain yn 2014; arddangosfa o 88,246 o babis, un er cof am fywyd pob milwr o Brydain a’r Trefedigaethau a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Weeping Window yw’r cerflun a welwyd ar ffurf rhaeadr o babis yn llifo o ffenestr uchel i’r ffos welltog islaw. Bwa ysgubol o babis coch llachar ar goesau uchel yw Wave.
Mae’r cerfluniau Wave a Weeping Window wedi’u cadw i’r genedl gan y Backstage Trust a Sefydliad Clore Duffield, ac wedi’u cyflwyno fel anrheg i 14-18 NOW a’r Amgueddfeydd Rhyfel Imperialaidd.
Yn yr un modd â phob prosiect 14-18 NOW, nod cyflwyno’r cerfluniau i gynulleidfaoedd newydd yw ysgogi trafodaeth newydd ar draws y wlad ynghylch gwaddol y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Rwy’n falch iawn fod Castell Caernarfon wedi’i ddewis i gynnal cerflun hynod Weeping Window yn ystod dyddiadau allweddol yn 2016, gan gynnwys Sul y Cofio. Gwnaeth yr arddangosfa wreiddiol yn Nhŵr Llundain ddenu miliynau o ymwelwyr rhyngwladol a daeth yn ddelwedd eiconig ar gyfer nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
“Pleser oedd arwain rhaglen y wlad ar gyfer cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf, sef Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Mae’r cyfle i arddangos y pabis yng Nghymru yn ychwanegiad gwych at yr holl ddigwyddiadau eraill sydd eisoes ar y gweill gan sefydliadau ac unigolion ar hyd a lled Cymru. Bydd Castell Caernarfon yn lleoliad heb ei ail ar gyfer y cerflun gwych hwn ac rwy’n hyderus y bydd trigolion yr ardal ac ymwelwyr yn hapus iawn â’r newyddion yma.”
Gofynnwyd i leoliadau ar draws y DU gyflwyno cynigion i groesawu dau gerflun a bu cais Castell Caernarfon yn llwyddiannus.
Yn ystod gweddill rhaglen 14-18 NOW, bydd y cerfluniau Wave a Weeping Window i’w gweld mewn gwahanol leoliadau ar draws y Deyrnas Unedig, gan orffen yn Amgueddfa Ryfel Imperialaidd y Gogledd ac Amgueddfa Ryfel Imperialaidd Llundain yn hydref 2018. Yn dilyn hynny bydd y cerfluniau’n cael eu cyflwyno’n rhodd i’r Amgueddfeydd Rhyfel Imperialaidd.
Mae Wave a Weeping Window yn rhan o’r arddangosfa Blood Swept Lands and Seas of Red – y pabis a’r syniad gwreiddiol gan yr artist Paul Cummins, a’r arddangosfa wedi ei chynllunio gan Tom Piper – gan Paul Cummins Ceramics Limited mewn cydweithrediad â Historic Royal Palaces.
Ceir gwybodaeth am ddigwyddiadau a phrosiectau coffau ledled Cymru ym mhamffled blynyddol ‘Rhaglen 2015’ Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 -1918 (http://www.cymruncofio.org/1915-1918-programme/) ac yn www.cymruncofio.org.