Mwy o Newyddion
Mentrau Iaith Cymru yn galw i ddiogelu cyllid S4C
Mae Mentrau Iaith Cymru, mudiad cenedlaethol sy'n cefnogi gwaith y 23 Menter Iaith ar draws Cymru, yn datgan eu gwrthwynebiad i fwriad Llywodraeth San Steffan i dorri grant S4C o 26% erbyn 2020.
Maent yn credu y byddai'r toriadau arfaethedig a amlinellwyd yn adolygiad gwariant yr wythnos ddiwethaf, os yn digwydd, yn ergyd enfawr i bobl Cymru.
Mae S4C yn fwy na sianel deledu - mae wedi gwreiddio'n ddwfn yn hanes diweddar Cymru fel un o'r datblygiadau mwyaf arwyddocaol a chadarnhaol i'r iaith Gymraeg. Mae S4C, y sianel, ei phlatfformau ar-lein amrywiol, yn gyfryngau amhrisiadwy sy’n sicrhau defnydd a hyfywedd y Gymraeg - mae’r sianel yn agor y drws i’r Gymraeg i nifer o bobl yng Nghymru a thu hwnt, yn ddysgwyr, siaradwyr rhugl neu’n ddi-Gymraeg.
Dros y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf toriadau a bygythiadau pellach i’w chyllid, mae'r sianel wedi parhau i esblygu ac arloesi er mwyn sicrhau darpariaeth a gwasanaeth o safon uchel i bobl Cymru.
Mae Meirion Davies, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, yn tynnu sylw at werth a chyfraniad S4C at economi Cymru: "Mae effaith gadarnhaol S4C yn sylweddol, nid yn unig o ran codi proffil y Gymraeg fel iaith bob dydd ond drwy greu gwaith cyfrwng Cymraeg ar draws y wlad.
"Mae wedi dod â gwerth economaidd i’r Gymraeg, elfen bwysig o adfer iaith. Mae gan y Mentrau berthynas agos â S4C o ran cyd-hyrwyddo digwyddiadau ar lawr gwlad sydd yn cyfoethogi bywyd pobl.
"Rydym am weld hyn yn cynyddu nid crebachu.
"Rydym yn galw ar ein gwleidyddion yng Nghymru ac yn San Steffan i wrthwynebu'r toriadau hyn, ac i wneud bob ymdrech posib er mwyn diogelu dyfodol ein hunig sianel Cymraeg."