Mwy o Newyddion
Gweinidog yn esbonio’r rhan arloesol y mae Cymru’n ei chwarae i daclo hinsawdd sy’n newid
Wrth iddo adael ar gyfer ei daith i Baris ar gyfer cynhadledd COP21 ar yr hinsawdd, mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant wedi esbonio’r rôl bwysig y mae Llywodraeth Cymru a llywodraethau taleithiol a rhanbarthol eraill yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â hinsawdd sy’n newid.
Ynghyd â thros 150 o arweinwyr o bob cwr o’r byd sy’n dod ynghyd ar gyfer cynhadledd COP21 ym Mharis i daro ar gytundeb i arafu’r newid yn yr hinsawdd, gwelir hefyd y casgliad mwyaf erioed o gynrychiolwyr taleithiol a rhanbarthol.
Meddai Carl Sargeant: “Y newid yn yr hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r byd yn yr 21ain ganrif a bydd yn esgor ar ganlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol aruthrol. Nid rhywbeth fydd yn effeithio ar genedlaethau’r dyfodol yn unig mohono – y mae eisoes yn effeithio arnom ni yng Nghymru.
“Rwy’n falch iawn o’r hyn rydym wedi’i wneud yng Nghymru ac ers blynyddoedd lawer, rydym wedi gweithio i dynnu sylw at bwysigrwydd yr hyn y gall llywodraethau taleithiol a rhanbarthol ei wneud i daclo effeithiau hinsawdd sy’n newid a gwneud datblygu cynaliadwy’n realiti.
“Mae Cymru, trwy basio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, wedi cymryd cam all yn ein barn ni weddnewid y sefyllfa trwy osod sylfeini ein dyfodol.
"O wneud, y ni yw un o’r gwledydd cyntaf ar y Ddaear i roi lle canolog ffurfiol i ddatblygu cynaliadwy yn ein gwasanaethau cyhoeddus ac i ddeddfu ar set o nodau clir – sy’n seiliedig ar Nodau’r Cenhedloedd Unedig – gan osod llwybr clir ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
"A chyda Bil yr Amgylchedd, rydym am fynd gam ymhellach fel un o’r Llywodraethau Taleithiol neu Ranbarthol cyntaf i ddeddfu ar gyllidebau carbon.
“Mae hyn ar ben y ffaith mai ni yw’r 4ydd gorau yn Ewrop am ailgylchu a’n bod wedi gostwng allyriadau’r sector 20.4%.
"Mae rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud dros 20,000 o gartrefi yn fwy ynni effeithlon gan fynd yr un pryd i’r afael â thlodi tanwydd a chynyddu’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru.
"Mae hyn yn dangos bod gweithredu i arafu’r newid yn yr hinsawdd yn dod â manteision economaidd a chymdeithasol go iawn ac yn tanlinellu ein hymrwymiad i gefnogi’r mwyaf bregus yr un pryd â gwireddu’r cyfleoedd mawr sy’n gysylltiedig â Thwf Gwyrdd.
“Byddaf felly’n tynnu sylw at ein ffordd o weithio ac yn hyrwyddo’r rhan bwysig y mae angen i Lywodraethau Taleithiol a Rhanbarthol ei chwarae yn yr ymdrechion i daro ar gytundeb ym Mharis.”