Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Tachwedd 2015

Tro-pedol y Ceidwadwyr ar S4C yn sarhad i Gymru

Mae Liz Saville Roberts AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd wedi rhoi beirniadaeth hallt o benderfyniad Llywodraeth y DG i dorri cyllideb S4C yn sgil yr Adolygiad Gwariant.

Bydd cyllideb S4C yn lleihau o £6.7m i £5m erbyn 2019/20 - cwymp sylweddol o 26%.

Dywedodd Liz Saville Roberts: "Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio sawl gwaith yn erbyn torri cyllideb S4C - mae hyn yn newyddion pryderus iawn.

"Nid yn unig mae Llywodraeth y DU yn gwneud toriad sylweddol i wasanaeth gwerthfawr a phwysig, meant hefyd yn gwneud tro pedol amlwg ar ymrwymiad maniffesto etholiadol.

"Mae'r newid hwn yn sarhad i Gymru ac yn dangos diffyg ymrwyiad y Llywodraeth Geidwadol i'r Gymraeg ac i gefnogi'r celfyddydau yng Nghymru.

"Fel yr unig sianel cyfrwng Cymraeg yn y byd, mae S4C yn darparu gwasanaeth unigryw sy'n ffurfio un o gonglfeini'r diwydianau creadigol yng Nghymru.

"Mae cyhoeddiad heddiw yn codi'r cwestiwn unwaith eto ynghylch cyfrifoldeb dros ddarlledu. Does bosib y byddai dyfodol S4C yn fwy diogel pe bai ei ffawd yn nwylo sefydliad democrataidd Cymru ei hun?

"Bydd Plaid Cymru yn herio'r newid hwn pob cam o'r ffordd ac yn parhau i ddadlau'r achos dros drosglwyddo cyfrifoldeb dros ddarlledu o San Steffan i Gymru."
 

Rhannu |