Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Rhagfyr 2015

ASau Plaid Cymru i bleidleisio yn erbyn cyrchoedd awyr yn Syria

Mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams AS, wedi cadarnhau y bydd ef a'i gyd-Aelodau Jonathan Edwards AS a Liz Saville Roberts AS yn gwrthwynebu cyrchoedd awyr gan y DU yn Syria yn ystod dadl y Tŷ Cyffredin heno.

Dywedodd Mr Williams fod ei blaid wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r dadleuon o blaid ac yn erbyn ac wedi dod i gytundeb unfrydol fod y Prif Weinidog wedi methu dadlau'r achos o blaid ymyrraeth filwrol yn Syria a bod gormod o gwestiynau yn parhau heb eu hateb.

Wrth siarad cyn y ddadl dywedodd Hywel Williams AS: "Ar ôl ystyriaeth ofalus, mae Plaid Cymru o'r farn unfrydol fod y Prif Weinidog wedi methu dadlau'r achos o blaid ymyrraeth filwrol ar ran y DU yn Syria.

"Cafwyd addewid gan y Prif Weinidog y byddai'n cyflwyno cynllun clir a chyflawn nid yn unig i ddinistrio IS ond hefyd i sicrhau sefydlogrwydd hir-dymor yn Syria. Mae wedi methu cyflawni hyn.

"Mae nifer fawr o gwestiynau yn parhau heb eu hateb ynghylch Penderfyniad Pennod VII y Cenhedloedd Unedig, yr honiad fod 70,000 o filwyr cymhedrol ar y llawr yn Syria, diffyg pwysau ar ran y DU ar Saudia Arabia a gwladwriaethau eraill y Gwlff i roi'r gorau i gyflenwi arfau i IS, ac absennoldeb ymdrechion y DU i annog Twrci i atal eu hymosodiadau ar y Cwrdiaid sydd eisoes yn brwydro IS yn llwyddiannus.

"Credai Plaid Cymru na fydd gollwng bomiau o'r awyr yn trechu IS.

"Yn fwy na hynny, rydym o'r farn y byddai gweithredu milwrol gan y DU yn bygwth ansefydlogi Syria a'r rhanbarth ehangach yn bellach, a thanseilio diogelwch ein cymunedau gartref.

"Bydd holl ASau Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn cyrchoedd awyr yn Syria."

Rhannu |