Mwy o Newyddion
Y pleidleisio ar gyfer personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn agor heddiw
Mae’r pleidleisio ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2015 yn agor heddiw.
Dyma’r wyth a fydd yn cystadlu am wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2015:
Pêl-droediwr Cymru a Real Madrid GARETH BALE, yr oedd ei goliau wedi helpu i fynd â Chymru i Rowndiau Terfynol Ewro 2016
Chwaraewr Rygbi’r Undeb y Gweilch a Chymru DAN BIGGAR a ddisgleiriodd yng Nghwpan Rygbi’r Byd ac ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad
Pencampwr y Byd Dwbl gyda’r Ddisgen a Thaflu Pwysau a'r un sy’n dal y Record, yr Athletwr Paralympaidd ALED SION DAVIES
Enillydd medal aur yn y Gemau Ewropeaidd ac Enillydd Grand Prix y Byd, yr athletwraig Taekwondo JADE JONES
Pencampwr newydd Pwysau Plu y Byd IBF a oedd hefyd wedi amddiffyn ei deitl eleni, y bocsiwr LEE SELBY
Gan ddychwelyd ar ôl anaf i gymhwyso ar gyfer Gemau Olympaidd 2016, yr athletwraig triathalon NON STANFORD
Enillydd clasurol a orffennodd y Tour de France yn safle gorau ei yrfa, y seiclwr GERAINT THOMAS
Capten pêl-droed Cymru a Dinas Abertawe ASHLEY WILLIAMS a arweiniodd ei wlad at Rowndiau Terfynol Ewro 2016
Gall y cyhoedd bleidleisio dros y ffôn a thrwy neges destun rhwng dydd Llun, Tachwedd 30 am 8am tan bydd yn cau ddydd Sadwrn, Rhagfyr 5 am 6pm. Ewch i bbc.co.uk/cymrufyw am fanylion llawn am sut i bleidleisio.
Cyhoeddir enw’r enillydd yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2015 nos Lun, Rhagfyr 7, yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd. Bydd Wales Today ar BBC One Wales, a BBC Radio Wales, yn darlledu’r canlyniad a’r ymateb ar y noson.
Hefyd bydd y seremoni wobrwyo yn fyw ar bbc.co.uk/cymrufyw a BBC iplayer o 8pm ymlaen gydag adroddiadau ar Newyddion 9 ar S4C ac ar BBC Radio Cymru. Wedyn bydd y seremoni ar gael ar y Botwm Coch y diwrnod canlynol.
Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru 2015 yn bartneriaeth rhwng BBC Cymru a Chwaraeon Cymru ac mae’n dod ag amrywiaeth eang o wobrau ynghyd - gan gynnwys Hyfforddwr y Flwyddyn a Thîm y Flwyddyn Chwaraeon Cymru - a gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.
Mae’r manylion llawn ar gael yn www.walessportawards.co.uk
#WSA2015