Mwy o Newyddion
Syria - 'Sefyllfa Herod' arall?
Mae rhyfel Syria yn adlais o’r hanes am Herod yn lladd y plant, meddai Cadeirydd Rhwydwaith Heddwch Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Yn ôl y Parch Guto Prys ap Gwynfor mae o leiaf 30,000 o blant eisoes wedi cael eu lladd yn yr ymladd.
“Wrth i ni baratoi i ddathlu genedigaeth Tywysog Tangnefedd mae’n dorcalonnus fod Prydain yn ystyried ymuno’n yr ymladd gan ychwanegu at y lladdfa,” meddai.
“Honnir bod angen gweithredu er mwyn amddiffyn y Deyrnas Unedig.
"Gwelodd Herod fygythiad tebyg i’w deyrnas ef ar ôl genedigaeth Iesu.
"Roedd yn credu bod lladd plant Bethlehem yn 'beth iawn' i'w wneud o dan yr amgylchiadau. Heddiw, ystyriwn ei weithredoedd yn rhai hynod greulon ac anghyfiawn.
“Yn ôl y sefydliad hawliau dynol I Am Syria, cafodd o leiaf 30,000 o blant eu lladd yn y gwrthdaro hyd yn hyn.
"Nid yw bomio o’r awyr yn gwahaniaethu rhwng milwr ISIL a phlant neu bobl ddiniwed eraill.
“Rydym yn apelio ar Aelodau Seneddol i ddangos callineb a thosturi drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig i ymuno yn y bomio ar Syria.
"Byddai hynny ond yn ychwanegu at farwolaethau a dioddefaint bobl ddiniwed dros gyfnod y Nadolig ac yn creu mwy fyth o ffoaduriaid.”