Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Tachwedd 2015

Apêl am atgofion o’r hen ysbyty oedd ar yr un safle hanesyddol â’r ganolfan dementia

Cafodd apêl ei lansio am eitemau cofiadwy ac atgofion am ysbyty cymunedol yng Nghaernarfon roedd pobl yn hoff iawn ohono.

Mae sefydliad gofal Parc Pendine yn bwriadu cael arddangosfa am hanes y safle, lle mae’r ganolfan dementia £7m newydd bellach wedi agor. 

Mae canolfan Bryn Seiont Newydd, ar gyrion y dref, wedi agor ers ychydig ac ymhen amser bydd yn creu 100 o swyddi.

Mae hanes y safle yn mynd yn ôl i’r Oes Efydd ac mae eitemau ddaeth i’r golwg yno, yn cynnwys cwpan arogldarth, sydd erbyn hyn yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Ychydig dros 100 mlynedd yn ôl – ar yr adeg pan dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf – fe agorodd yr adeilad gwreiddiol ei ddrysau fel canolfan iechyd o fath gwahanol iawn, oedd yn defnyddio syniadau newydd. Cafodd ei sefydlu fel Ysbyty Tiwbercwlosis Bryn Seiont.

Enw’r ganolfan ddwyieithog newydd sydd yno bellach yw Bryn Seiont Newydd, fel teyrnged i ysbyty cymunedol Bryn Seiont, a gaeodd yn 2004.

Mae’r ganolfan yn gynnyrch meddwl perchnogion Parc Pendine, Mario Kreft MBE, a’i wraig Gill, sydd hefyd yn cynllunio ar gyfer 16 o fflatiau i bobl gael byw gyda’i gilydd ar y safle.

I gydnabod ymhellach pa mor bwysig oedd yr hen ysbyty i’r gymuned, mae Mario’n bwriadu cynnal arddangosfa i ddathlu’r adeilad a’r bobl fu’n gweithio yno ac yn cael eu trin yno ar yr adeg yn y gorffennol pan oedd o fwyaf prysur.

Ac mae dau aelod newydd o staff ym Mryn Seiont, oedd yn gweithio gynt yn yr ysbyty, hefyd wedi gofyn am i bobl ddod ag eitemau diddorol i gael lle arbennig yn yr arddangosfa.

Ar un adeg roedd plasdy ar safle Bryn Seiont, wedi ei adeiladu yn 1872 gan y perchennog chwarel Capten Charles Pearson, ar gyfer pendefigion, bonedd a chlerigwyr.

Yn 1914, fe gostiodd £8,074 i brynu’r hen blasty a’i newid i fod yn Ysbyty Twbercwlosis Bryn Seiont. Roedd ganddo 36 o welyau ac yn cyflogi 19 o staff, yn cynnwys metron, prif nyrs, un nyrs arferol a phedwar o nyrsys dan hyfforddiant, saith o forynion a gweision, un porthor, dau arddwr, dynes lanhau a chlerc.

Yn y dyddiau hynny, roedd triniaeth sanatoriwm yn digwydd gyda’r syniad bod modd  cael gwared o diwbercwlosis gydag awyr iach, a dyma pam fod Bryn Seiont yn addas, gan ei fod ar fryn ac ychydig ffordd allan o’r dref.

Ond roedd yr ysbyty yma hefyd yn arwain y ffordd  gyda datblygu syniadau newydd, a digwyddodd llawer o waith ymyrraeth gyda llawdriniaeth yno, yn defnyddio syniadau newydd, i bobl gyda twbercwlosis drwg iawn.

Daeth cyffuriau gwrthfiotig ar gael i drin twbercwlosis yn llwyddiannus ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac felly roedd angen newid rôl Ysbyty Bryn Seiont.

Daeth i ddarparu fwyfwy ar gyfer anghenion pobl henoed a methedig, a datblygu fel cyfleuster gofal dydd yn yr 1970au.

Daeth unwaith eto’n arweinydd yn y maes, yn esblygu i gael rôl arbenigol, ac ymhellach ymlaen wedyn daeth Bryn Seiont yn ysbyty i’w ddefnyddio gan nyrsys Macmillan i gynnig gofal lliniarol i gleifion gyda chanser.

Yn ddiweddarach, daeth y safle hefyd yn gartref i’r Gwasanaeth Trallwyso Gwaed yn ogystal â chanolfan i’r gwasanaeth ambiwlans, cyn i Parc Pendine ei weld fel lle delfrydol i gael sefydliad newydd o safon rhyngwladol.

Dywedodd Mario: “Trwy gydol ei hanes hir a disglair mae Bryn Seiont wedi bod yn ased i’r gymuned, a phobl mor hoff ohono a llawer o bobl leol â chysylltiad agos â’r lle.

“Rydym yn bwriadu dathlu’r lle amlwg sydd gan y fan hon yng nghalonnau pobl leol trwy gael arddangosfa yn y ganolfan newydd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Felly hoffwn wahodd unrhyw un sydd ag atgofion neu bethau’n gysylltiedig â’r ysbyty gysylltu â ni er mwyn cael eu cynnwys yno.

“Gallai hynny fod yn hen luniau, dogfennau, darnau o offer neu ddillad gwaith swyddogol – mewn gwirionedd unrhyw beth sy’n rhoi blas o sut roedd pethau yn yr ysbyty yn yr hen ddyddiau.”

Mae Dawn Jones a Linda Williams yn cefnogi’r alwad yma, y ddwy’n aelodau staff Bryn Seiont bellach ac wedi dechrau ar eu gyrfaoedd gofal yn yr hen ysbyty. 

Dechreuodd Dawn, 39 oed, o’r Felinheli, yno ar ôl gadael Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon.

Dywedodd: “Mi wnes i ddechrau yn yr adran therapi iaith a lleferydd, oedd yn yr hen blasty a gafodd ei adeiladu yn oes Fictoria.

“Y prif waith i mi, yn y bôn, oedd trefnu bod y wybodaeth ddiweddaraf ar gael yn y gronfa ddata yn y swyddfa a helpu pobl gydag anawsterau lleferydd i arfer gyda defnyddio’r ffôn.

“Fe wnes i fynd ymlaen i weithio fel cymhorthydd gofal cartref, yn gofalu am bobl efo sglerosis ymledol a dementia.

“Wedyn mi ges i waith arall tu allan i’r sector gofal, ond daeth hynny i ben yn gynharach eleni.

“Ym mis Medi roeddwn i’n ddigon ffodus i gael swydd fel gweinyddwr yn Bryn Seiont Newydd ac ers hynny rydw i wedi cael hyfforddiant llawn, yn barod ar gyfer adeg agor i’n preswylwyr newydd.

Ac meddai hefyd “Rydw i’n arbennig o falch fy mod yn ôl yn gweithio ar yr un safle lle gwnes i ddechrau fy ngyrfa.

“Er bod y ganolfan dementia’n adeilad cwbl newydd, mae rhai rhannau o’r tir o gwmpas yn edrych yn gyfarwydd iawn ers adeg yr hen ysbyty ac yn gweddu’n dda iawn gyda’r datblygiad newydd.

“Bydd gan lawer o bobl Caernarfon gysylltiadau agos â’r hen ysbyty, fel sydd gen i.

“Mi fyddan nhw neu rywun maen nhw’n eu hadnabod naill ai wedi bod yn gweithio yma neu wedi cael eu trin yma. Os oes gan unrhyw un luniau neu unrhyw beth arall i ddangos sut roedd hi yma yn yr hen ddyddiau i fuaswn yn eu hannog i’w benthyg i ni ar gyfer yr arddangosfa.” 

Yr un oedd neges Linda Williams, 40 oed, o Lanllyfni, a wnaeth hefyd ddechrau ei gyrfa yn Ysbyty Bryn Seiont.

Dywedodd: “Fe wnes i fynd yno gyntaf ar ôl gadael yr ysgol ac yn byw yn Nhalysarn.

“Roeddwn i ar Gynllun Hyfforddi’r Ifanc dwy flynedd fel cymhorthydd gofal iechyd, o 1991 tan 1993.

“Pan orffennodd hynny mi ges i swydd ran amser yn yr ysbyty, yn gweithio dwy noson o’r wythnos, ac wedyn symud ymlaen i weithio’n llawn amser yn ystod y dydd, ar y wardiau canser Macmillan.

“Mi wnes i adael yn 2001 i gael fy nwy ferch, Cara ac Awal, a dod yn ôl i’r gwaith wedyn fel cymhorthydd gofal iechyd.

“Erbyn hyn rydw i’n uwch ymarferydd gofal ym Mryn Seiont Newydd ac wrth fy modd i gael swydd ar yr un safle a lle gwnes i ddechrau yn yr ysbyty.

“Rydw i’n cofio gweld yr ysbyty’n cael ei dymchwel a theimlo’n drist gan ei bod yn golygu gymaint i bobl Caernarfon.

“Rydw i’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn dod ymlaen i roi benthyg lluniau a phethau eraill i ni ar gyfer yr arddangosfa o’r hen ddyddiau yn yr ysbyty.”

Ac ychwanegodd Linda hefyd: “Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at fy swydd newydd yn y ganolfan am ei fod yn lle mor braf gydag amgylchedd da, a phopeth yno’n cyrraedd y safonau uchaf. Ac mae yna griw gwych o bobl yno’n gweithio’n barod.”

Mae Mario a Gill Kreft eisoes yn rhedeg saith o gartrefi gofal, cwmni gofal cartref a chanolfan dysgu gofal yn ardal Wrecsam, ac mae Mr Kreft yn ffigwr arweiniol yn y sector gofal yn y Deyrnas Unedig.

Ef yw Cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, y prif gorff sy’n cynrychioli’r sector gofal yng Nghymru, ac mae wedi cael MBE am ei gyfraniad i ofal cymdeithasol yng Nghymru.

I yrru eich atgofion chi ar gyfer arddangosfa Bryn Seiont Newydd, cysylltwch â’r Rheolwr, Sandra Evans, trwy e-bostio: Sandra.evans@pendinepark.com, neu ffoniwch 01286 684540.  

 

Rhannu |