Mwy o Newyddion
-
Diwydiant dur Cymru “yn rhy bwysig i’w golli”: Rhun ap Iorwerth
12 Ionawr 2016Mae Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru wedi galw am sefydlu tasglu i archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru amddiffyn y diwydiant dur yng Nghymru yn well. Darllen Mwy -
Gweinidog yn dweud y bydd cynlluniau arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer cau llysoedd yn cael effaith andwyol ar gyfiawnder yng Nghymru
12 Ionawr 2016Mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, wedi mynegi ei bryderon ynghylch rhaglen arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer cau rhagor o lysoedd yng Nghymru. Nododd ei bryderon mewn llythyr a anfonwyd at y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Darllen Mwy -
Leanne Wood: Gweledigaeth am Gymru o fewn Ewrop ddiwygiedig
11 Ionawr 2016MAE Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi amlinellu gweledigaeth ei phlaid am Gymru gref o fewn yr UE, gan ddadlau y dylid diwygio, nid gadael yr Undeb Ewropeaidd Darllen Mwy -
AS Plaid yn cyhuddo'r Llywodraeth o fusnesu mewn materion datganoledig o flaen rali i wrthwynebu mesur undebau Llafur
11 Ionawr 2016Mae AS Plaid Cymru Jonathan Edwards wedi cyhuddo'r llywodraeth o ‘anablu’ Undebau Llafur ac 'ymyrryd' ar faterion datganoledig, wrth i’r Mesur Undebau Llafur gael ei Ail Ddarlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi heno. Darllen Mwy -
UKIP yn bygwth economi wan a Chymru ranedig
11 Ionawr 2016Mae Simon Thomas AC Plaid Cymru heddiw wedi cyhuddo UKIP o fod eisiau "rhannu Cymru", gan rybuddio y byddai amcan y blaid i adael yr Undeb Ewropeaidd yn "drychinebus" i'r economi Gymreig. Darllen Mwy -
Lansio ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Safonau Ansawdd Bysiau Cymru Gyfan
11 Ionawr 2016Mae Llywodraeth Cymru'n ymgynghori ar gynigion i gyflwyno Safonau Ansawdd Bysiau Cymru Gyfan gwirfoddol ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol rheolaidd. Darllen Mwy -
Penodi’r Athro John Grattan yn Is-Ganghellor Dros Dro ar Brifysgol Aberystwyth
11 Ionawr 2016Mae'r Athro John Grattan wedi'i benodi'n Is-Ganghellor Dros Dro ar Brifysgol Aberystwyth yn dilyn proses recriwtio fewnol. Darllen Mwy -
Newidiadau pwysig i Fedal y Dysgwyr
11 Ionawr 2016Eleni bydd Medal Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd yn cael ei thrawsnewid. Mi fydd y gystadleuaeth am y tro cyntaf gyda’r ffocws ar gyfathrebu yn y Gymraeg yn hytrach na darn ysgrifenedig, ac oedran cystadlu yn cael ei ymestyn o 19 i 25 oed. Darllen Mwy -
Cyhoeddi canllawiau newydd ar yfed yn y DU
08 Ionawr 2016Heddiw, mae Prif Swyddogion Meddygol y DU wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar yfed alcohol ar gyfer y DU. Darllen Mwy -
Gwerthwr ar Facebook yn euog o droseddau tybaco ffug
08 Ionawr 2016Mae dyn o Wynedd, wedi derbyn Gorchymyn Cymunedol 12 mis, ei orfodi i gwblhau gwerth 50 awr o waith di-dal a thalu £640 o gostau gan Ynadon am droseddau o dan Deddf Nodau Masnach 1994. Darllen Mwy -
Blwyddyn newydd, her newydd
08 Ionawr 20162016 yw Blwyddyn Antur Cymru; dyma’ch cyfle i wneud rhywbeth anturus. Mae llu o wahanol fathau o anturiaethau y gallwch eu gwneud, ac mae rhai o’r digwyddiadau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn cynnig heriau delfrydol ar gyfer 2016. Darllen Mwy -
Galwad i rannu atgofion o becynnau cymorth bwyd y 1940au
08 Ionawr 2016O bwdinau Nadolig Hen Saesneg i dwrci tun a phecynnau o resins, gofynnir i bobl am eu hatgofion o becynnau cymorth bwyd Americanaidd yn y 1940au. Darllen Mwy -
Prosiectau ynni newydd yng Nghymru yn cael eu rhwystro gan allu annigonol y Grid Cenedaelthol
08 Ionawr 2016Mae AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts wedi tynnu sylw at yr anghysondeb rhwng bwriad Llywodraeth y DU i ddatganoli pwerau ynni pellach i Gymru a diffyg y Grid Cenedlaethol ar hyn o bryd i ddarparu ar gyfer prosiectau cynhyrchu ynni newydd. Darllen Mwy -
Yr Urdd - Ymlaen am y canmlwyddiant
08 Ionawr 2016 | Gan KAREN OWENFe allai mudiadau'r Urdd a'r Ffermwyr Ifanc fod yn "bartneriaid" o dro i dro yn y dyfodol, ond fydd y ddau fudiad ieuenctid ddim yn closio er mwyn dod trwy'r wasgfa ariannol bresennol. Darllen Mwy -
Her Hywel yn codi stêm - ond colli pwysau
08 Ionawr 2016Mae Her Hywel wedi dechrau a phawb wedi’u pwyso ac yn cychwyn ar y colli pwysau yng nghwmni’r darlledwr a’r cyflwynydd adnabyddus, Hywel Gwynfryn Darllen Mwy -
Dysgu iaith newydd ymysg 10 uchaf addunedau Blwyddyn Newydd
08 Ionawr 2016Mae dysgu Iaith newydd ymysg y 10 uchaf o ran addunedau blwyddyn newydd. Darllen Mwy -
Leanne Wood yn annog y Llywodraeth i ail-feddwl cynlluniau pensiynau menywod
07 Ionawr 2016Mae Leanne Wood AC Arweinydd Plaid Cymru heddiw wedi annog Llywodraeth y DG i ailfeddwl eu cynlluniau ar gyfer penisynau menywod, gan rybuddio y bydd cysoni oed Pensiwn y Wladwriaeth rhwng menywod a dynion yn gadael menywod dan anfantais. Darllen Mwy -
Gwilym Owen i aros yn y Llys
07 Ionawr 2016 | Gan KAREN OWENNewyddiadurwr yn derbyn ymddiheuriad gan yr Eisteddfod Genedlaethol Darllen Mwy -
Dylai dyfodol S4C gael ei roi i bleidlais medd AS Plaid Cymru wrth i'r Llywodraeth naddu'r sianel i farwolaeth
07 Ionawr 2016Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi galw heddiw ar Arweinydd y Tŷ Cyffredin i ganiatau trafodaeth bellach ar ddyfodol S4C fel y gall Aelodau Seneddol bleidleisio ar y mater. Darllen Mwy -
Gwyriadau ar Lwybr Arfordir Penfro
07 Ionawr 2016Mae Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cael ei ddargyfeirio mewn dau le ar hyn o bryd o ganlyniad i ddifrod a achoswyd yn ystod y cyfnod diweddar o law trwm cyson. Darllen Mwy