Mwy o Newyddion
Her Hywel yn codi stêm - ond colli pwysau
Mae Her Hywel wedi dechrau a phawb wedi’u pwyso ac yn cychwyn ar y colli pwysau yng nghwmni’r darlledwr a’r cyflwynydd adnabyddus, Hywel Gwynfryn.
Bwriad yr ymgyrch sy’n rhedeg rhwng dechrau Ionawr a diwedd mis Mawrth yw rhoi hwb i unrhyw un sy’n teimlo bod angen colli pwys neu ddau mewn ffordd hynod gymdeithasol – a thrwy godi arian at gronfa leol Eisteddfod Ynys Môn y flwyddyn nesaf.
Hywel Gwynfryn sy’n egluro: “Bydd rhywun yn teimlo’n aml ar ôl y Nadolig a’r flwyddyn newydd ein bod ni wedi’i gor-wneud hi braidd, a bod ambell bwys ychwanegol wedi ymddangos o rywle, a bod rhaid gwneud rhywbeth am y peth.
"Ro’n i’n gwybod y byddwn i’n teimlo felly eleni, a dyna benderfynu cyn y Dolig mod i am golli pwysau yn y flwyddyn newydd.
“Ro’n i hefyd yn awyddus iawn i gefnogi’r Eisteddfod yn fy ardal enedigol, Môn, a dyna feddwl a chael y syniad – colli pwysau i godi arian. Fe fyddwn i’n teimlo’n well, a byddai cronfa leol yr Eisteddfod yn elwa.
"Gall colli pwysau fod yn beth unig iawn fel mae unrhyw un sydd wedi ceisio cadw at ryw ddeiet neu’i gilydd yn ei wybod, felly penderfynais annog llond lle o bobl eraill i ymuno efo fi dros yr wythnosau nesaf.
“Rhaid i mi ddweud mod i wedi synnu gyda nifer y rheiny sydd wedi ymuno gyda Her Hywel – dros gant o bobl!
"Mae’r peth yn rhyfeddol – a nifer o’r rhain yn dimau o’r tu allan i Sir Fôn hefyd. Y gobaith mawr rwan yw y bydd modd i ni i gyd ddod ynghyd ar ddiwedd mis Mawrth i ddathlu ein bod ni wedi llwyddo i golli pwysau.
“Rydw i’n eithriadol o ddiolchgar i bawb sydd wedi cysylltu i greu timau, i gynnig gwobrau ac i ddymuno’n dda i ni. Mae’r gefnogaeth a’r ymateb yn hwb mawr ac yn sicr o’n helpu fi i gadw i ffwrdd o fwydydd drwg am yr wythnosau nesaf.”
Felly mae’r timau wedi’u creu ac wedi’u pwyso, ac mae’r gwaith caled yn cychwyn yr wythnos hon. Y bwriad yw casglu pwyntiau wrth golli pwysau a chodi arian.
Bydd pob tîm yn derbyn pwynt am bob pwys a gollir, a phwynt arall am bob punt o nawdd a godir. Ar ddiwedd y broses, bydd y tri thîm gyda’r nifer mwyaf o bwyntiau’n ennill gwobr.
Mae cymorth ar gael ar gyfer unrhyw un sydd eisiau hwb bach ychwanegol, sef sesiwn ymarfer corff wythnosol yn rhad ac am ddim yn Cartio Môn ar nos Sul neu nos Lun, sesiwn ymarfer corff wythnosol yn Enzone, Bodffordd, a sesiwn nofio neu ymarfer corff yn rhad ac am ddim yn un o ganolfannau hamdden Ynys Môn.
Daw’r her i ben ar benwythnos y Pasg ar ddiwedd mis Mawrth, pan fydd pawb yn cael eu pwyso er mwyn gweld faint mae’r timau wedi’u colli dros dri mis cyntaf y flwyddyn.
Bydd y timau buddugol yn derbyn gwobr ac mae’r rhain yn cynnwys hanner diwrnod yn Spa Neuadd Tre-Ysgawen, hanner diwrnod yn padl-fyrddio arfordir Môn gyda chwmni Pellennig a reid ar hyd Afon Menai ar gwch antur y Rib-Ride.
Bydd pob tîm yn codi arian at Gronfa Leol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, a gallwch gyfrannu’r arian nawdd tuag at bwyllgor apêl eich ardal leol.
Am ragor o wybodaeth a’r amodau, ewch i www.eisteddfod.cymru/her-hywel, ffoniwch 07856 606 673 neu ebostiwch herhywel@gmail.com