Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Ionawr 2016

Cyhoeddi canllawiau newydd ar yfed yn y DU

Heddiw, mae Prif Swyddogion Meddygol y DU wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar yfed alcohol ar gyfer y DU.

Daw'r canllawiau newydd yn dilyn adolygiad manwl o gyngor blaenorol a gyhoeddwyd ym 1995 gan ystyried y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. Bu panel o arbenigwyr iechyd y cyhoedd a gwyddoniaeth ymddygiad yn arwain y gwaith ar yr adolygiad.

Mae'r canllawiau newydd yn cynnwys:

* un canllaw i ddynion a menywod: sydd bellach yn 14 uned yr wythnos i ddynion a menywod

* argymhelliad i beidio â 'chadw' 14 uned i'w defnyddio dros ddiwrnod neu ddau – ond yn hytrach i'w hyfed dros dridiau neu ragor

* bod yr 'effaith amddiffynnol' yn llawer iawn llai na'r hyn a dybiwyd yn flaenorol – h.y. nid yw un neu ddau wydriad o win coch yn eich atal rhag cael clefyd y galon, fel y clywir yn aml

* nid oes lefel 'ddiogel' o alcohol i'w yfed yn ystod beichiogrwydd

* cyngor ar gyfnodau yfed unigol.

Gwnaeth yr adolygiad ddarganfod tystiolaeth newydd ar risgiau canser, hyd yn oed o lefelau yfed isel, a bod manteision alcohol ar gyfer iechyd y galon yn llawer iawn llai na'r hyn a dybiwyd yn flaenorol.

Mae'r ddau reswm hyn wedi ysgogi Prif Swyddogion Meddygol y DU i osod y canllawiau ar nifer uchaf yr unedau o alcohol sy'n cael eu hargymell i ddynion a menywod i 14 uned yr wythnos.

Dywedodd Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Cymru: "Mae Prif Swyddogion Meddygol y Deyrnas Unedig wedi defnyddio argymhellion gan arbenigwyr alcohol i ddiweddaru'r cyngor.

"Mae ugain mlynedd ers cyhoeddi'r cyngor blaenorol ac mae'r canllawiau newydd hyn yn defnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf ar sut y mae lefelau yfed gwahanol yn effeithio ar risgiau iechyd unigolion.

"Diben y canllawiau newydd hyn yw i bobl wneud penderfyniadau deallus am eu hyfed, i'w wneud mor rhwydd â phosibl i wneud dewisiadau iach ac i gadw'r risg o ganser a chlefyd yr afu yn isel.

"Rydyn ni wedi lansio ymgynghoriad ar eiriad y canllawiau, ac a oes angen canllawiau ar nifer yr unedau ar gyfer cyfnodau yfed unigol. Rwyf am annog unigolion, cymunedau a grwpiau rhanddeiliaid i gymryd y cyfle i fynegi eu barn."

Rhannu |