Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Ionawr 2016

Leanne Wood yn annog y Llywodraeth i ail-feddwl cynlluniau pensiynau menywod

Mae Leanne Wood AC Arweinydd Plaid Cymru heddiw wedi annog Llywodraeth y DG i ailfeddwl eu cynlluniau ar gyfer penisynau menywod, gan rybuddio y bydd cysoni oed Pensiwn y Wladwriaeth rhwng menywod a dynion yn gadael menywod dan anfantais.

Dywedodd Leanne Wood hefyd y byddai codi oed pensiwn y wladwriaeth hefyd yn cael effaith anghymesur ar Cymru am fod gan bobl ddisgwyliad oed is ar gyfartaledd, a llai o gyfoeth wedi ei arbed i ddibynu arno wrth yddeol.

Ychwanegodd hi na ddylid dim ond cysoni'r oed heb weithredu mewn meysydd eraill, a dweud fod rhaid sicrhau triniaeth gydradd i ferched yn y gweithle, o ran ennillion, ac o ran cyfleon mewn bywyd.

Dywedodd Leanne Wood: "Mae cynlluniau pensiwn Llywodraeth y DG yn bygwth cosbi merched sydd eisoes wedi profi oes gwaith o gyflogau is a llai o gyfleoedd na'i cyfoedion gwrywaidd.

"Tra bod Plaid Cymru yn croesawu triniaeth gyfartal i ferched o ran oed pensiwn y wladwriaeth, mae hefyd angen triniaeth gyfartal i ferched mewn meysydd eraill megis yn y gweithle, o ran ennillion ac o ran cyfleoedd bywyd.

"Tra bod Llywodraeth y DG yn awyddus i fwrw ati gyda chysoni fel modd o dorri cyllidebau lles, nid yw'n gwneud unrhyw beth o ddifri i sicrhau cynnydd ar y ffactorau eraill.

"Rydym yn annog y Llywodraeth i gysoni oed pensiwn y wladwriaeth mewn modd arafach dros gyfnod hirach fel y gall merched sy'n nesau at oed ymddeol gynllunio'n well. Ar hyn o bryd mae'r broses yn rhy gyflym a bydd merched sy'n agosau at oed ymddeol a aned ar neu ar ol 6 Ebrill 1951 yn dioddef caledi di-angen o ganlyniad i gysoni brys.

"Ni all y merched hyn fynd nol i fyw eu bywydau eto ac felly maent yn haeddu cael eu trin yn well gan y Llywodraeth.

"Ar y cyfan credai Plaid Cymru y dylai menywod a dynion fod yn gymwys i dderbyn pensiwn y wladwriaeth o'r un oed, ond rhaid cyflwyno'r broses hon yn raddol yn hytrach na natur frys newidiadau'r Llywodraeth.

"Ni ddylid dim ond cysoni neu bydd yn bygwth gadael merched yn wynebu rhagolygon gwaeth na'i cyfoedion gwrywaidd.

"Credai Plaid Cymru hefyd y bydd codi oed pensiwn y wladwriaeth yn cael effaith anghymesur ar Gymru am fod pobl yma yn dueddol o beidio byw mor hir ar gyfartaledd, a llai o gyfoeth wedi ei arbed i ddibynu arno wrth ymddeol.

"Rydym yn annog Llywodraeth y DG i feddwl eto ar y dau fesur hyn."
 

Rhannu |