Mwy o Newyddion
UKIP yn bygwth economi wan a Chymru ranedig
Mae Simon Thomas AC Plaid Cymru heddiw wedi cyhuddo UKIP o fod eisiau "rhannu Cymru", gan rybuddio y byddai amcan y blaid i adael yr Undeb Ewropeaidd yn "drychinebus" i'r economi Gymreig.
Dywedodd Mr Thomas fod polisiau niweidiol UKIP yn bygwth troi'r cloc nôl ddegawdau ar Gymru - yn gymdeithasol ac economaidd - a nododd fod eu agenda economaidd a'r modd y maent yn gwrthod amrywiaeth yn ein hatgoffa o oes Thatcher.
Ychwanegodd fod hyn yn gyferbyniad trawiadol gydag agenda bositif Plaid Cymru nid yn unig am economi a gwasanaethau cyhoeddus cryf, ond hefyd o ran lle'r genedl o fewn Undeb Ewropeaidd ddiwygiedig sy'n dod a buddianau niferus i Gymru.
Dywedodd Simon Thomas: "Mae'r dewis sy'n wynebu pobl Cymru ar Fai 5ed yn un rhwng pleidiau sydd eisiau rhannu Cymru neu uno Cymru.
"Gyda disgwyl i'r Ceidwadwyr wynebu rhyfel cartref dros y cwestiwn Ewropeaidd a Llafur eisoes yn profi un dros bron iawn popeth, mae polisiau UKIP ar ben hynny yn bygwth economi wan a Chymru ranedig.
"Mewn cyferbyniad clir, mae gan Blaid Cymru dîm cryf sy'n barod i uno ac arwain Cymru. Rydym eisiau creu gwlad ble fo pawb yn medru ffynnu, beth bynnag fo eu cefndir, iaith neu amgylchiadau.
"Rydym yn barod i arwain llywodraeth sy'n derbyn ei chyfrifoldeb i bobl Cymru, yn hytrach na beio eraill am ei methiannau. Mae ein agenda uchelgeisiol yn cynnwys cynlluniau i greu swyddi, amddiffyn a gwella ein Gwasanaeth Iechyd, a rhoi'r dechrau gorau posib mewn bywyd i'n plant.
"Ar yr un pryd, diffyg undod yw prif nodwedd y pleidiau eraill - mae Llafur a'r Ceidwadwyr wedi eu plagio ganddo tra bod UKIP yn ei hyrwyddo.
"Mae polisiau niweidiol UKIP yn bygwth troi'r cloc nol ddegawdau i Gymru, ac mae eu mantra economaidd a'r modd y maent yn gwrthod amrywiaeth yn ein hatgoffa o ddyddiau Thatcher.
"Uwchlaw popeth, mae eu hobsesiwn gyda gadael yr Undeb Ewropeaidd yn peri bygythiad all brofi'n drychinebus i'r economi Gymreig. Tra bod Plaid Cymru yn ffrind beirniadol i'r UE a ddim yn credu fod Brwsel yn cynnig yr holl atebion i broblemau economaidd ein gwlad, mae'r buddiannau yn llawer mwy niferus nag unrhyw anfanteision.
"Mae 150,000 o swyddi Cymreig yn dibynu ar fasnach yr UE, tra bod yr Undeb Ewropeaidd yn cefnogi 16,000 o ffermwyr Cymreig - hyd at 80% o incwm ffermio.
"Mae'n glir fod syniadau UKIP yn gwbl groes i fuddiannau cenedlaethol Cymru.
"Rhwng nawr a Mai 5ed, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i herio polisiau niweidiol a dadunol UKIP, gan gyflwyno cynlluniau sy'n dangos sut y byddai llywodraeth Plaid gref ac unedig yn arwain Cymru gref ac unedig."