Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Ionawr 2016

Gwerthwr ar Facebook yn euog o droseddau tybaco ffug

Mae dyn o Wynedd, wedi derbyn Gorchymyn Cymunedol 12 mis, ei orfodi i gwblhau gwerth 50 awr o waith di-dal a thalu £760 o gostau gan Ynadon am droseddau o dan Deddf Nodau Masnach 1994. 

Ar 6 Ionawr 2016, plediodd Mr Callum David Davies o 21 Cefn Hendre, Caernarfon yn euog i ddwy drosedd dan Ddeddf Nodau Masnach 1994 yn Llys Ynadon Caernarfon.

Cyflwynwyd yr achos i’r llys gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd, wedi iddynt ddarganfod fod Mr Davies wedi cynnig darparu swm sylweddol o dybaco rowlio trwy ei dudalen ‘Facebook’ a gwefannau gwerthu / prynu lleol.

Yn dilyn ymchwiliad gan Uned Safonau Masnach o Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd, arestiwyd Mr Davies gan Heddlu Gogledd Cymru tra’n ceisio cyflenwi swm sylweddol o dybaco wedi’i rowlio gyda llaw i Swyddog Safonau Masnach cudd.

Yn dilyn dadansoddiad o’r tybaco, daeth yn amlwg ei fod yn un ffug, ac o ganlyniad bod ei werthu yn dorcyfraith.

Dywedodd John Eden Jones o Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd: “Fel Cyngor, mae’n ddyletswydd arnom i warchod gofal a lles trigolion Gwynedd.

"Tra bod pob sigarét a thybaco yn niweidiol, mae’n bwysig fod pobl yn ymwybodol y gall tybaco ffug fod yn fwy niweidiol byth gan na allwch fod yn saff o’r hyn yr ydych yn ysmygu

" Mae dadansoddiad o nwyddau tybaco ffug wedi datgelu cynhwysion hynod o beryglus megis plastig, tywod, cyanid, pryfaid a hyd yn oed baw llygod.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet ar gyfer Safonau Masnach Cyngor Gwynedd: “Mae mynd i’r afael â’r cyflenwad o dybaco anghyfreithlon yn flaenoriaeth gan wasanaeth Safonau Masnach yng Ngwynedd.

"Y gobaith yw cynyddu’r dealltwriaeth o’r effaith all hwn gael ar ysmygwyr a chymunedau lleol.

"Rwy’n hapus iawn gyda chanlyniad yr achos hwn, dylai hefyd brofi’n rhybudd i’r rhai sydd yn cyflenwi a gwerthu tybaco anghyfreithlon y byddwn yn cymryd y camau angenrheidiol i fynd i’r afael â’r mater.” 

Os oes gan unrhyw un wybodaeth ynglŷn a gwerthu nwyddau anghyfreithlon yng Ngwynedd, gallwch adrodd y mater yn gyfrinachol drwy ffonio tîm Safonau Masnach y Cyngor ar 01766 771 000 neu alw’r Gwasanaethau Cynghori Defnyddwyr ar 03454 04 05 06.

Rhannu |