Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
-
Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn creu 50,000 o brentisiaethau newydd
20 Ionawr 2016Heddiw bydd Llefarydd Cysgodol Plaid Cymru ar Addysg, Simon Thomas AC, yn cyhoeddi cynlluniau ei blaid i wneud buddsoddiad sylweddol mewn 50,000 o brentisiaethau i'n pobl ifanc dros y pum mlynedd nesaf. Darllen Mwy -
Cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn parhau i wella
20 Ionawr 2016Mae mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru, ond mae mwy o bobl nag erioed yn cael triniaeth ac mae'r cyfraddau goroesi'n uwch nag erioed, yn ôl adroddiad newydd ynglŷn â gofal canser heddiw. Darllen Mwy -
Plaid Cymru yn ymateb i adroddiad canser
20 Ionawr 2016Wrth ymateb i adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar ganser, dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones: “Mae’r adroddiad yn cydnabod fod targedau amseroedd aros o ran canser yn cael eu methu’n gyson, fod diagnosis hwyr yn parhau yn broblem enfawr, a bod targedau sgrinio yn cael eu methu. Darllen Mwy -
Enwi deinosor Cymreig newydd
20 Ionawr 2016Darganfuwyd deinosor Cymreig ar draeth ger Penarth, Bro Morgannwg y llynedd. Bellach mae’n cael ei arddangos drachefn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a hynny dan ei enw swyddogol – Dracoraptor hanigani Darllen Mwy -
Prif weithredwr i’r Eglwys yng Nghymru
20 Ionawr 2016MAE arweinydd busnes, gyda phrofiad ar raddfa uwch mewn diwydiant a hefyd yr eglwys, yn dychwelyd i’w wreiddiau i helpu llywio dyfodol yr Eglwys yng Nghymru. Darllen Mwy -
Newyddion da i’r diwydiant llyfrau wrth i Lywodraeth Cymru wneud tro-pedol ar doriadau
20 Ionawr 2016Mae AC Plaid Cymru Elin Jones wedi croesawu cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ei fod am dynnu nôl ei bwriad i dorri dros 10% o gyllideb Cyngor Llyfrau Cymru. Ni fydd toriad o gwbl yn y gyllideb eleni yn ôl y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant. Darllen Mwy -
Y Cyngor Llyfrau yn croesawu tro-pedol Llywodraeth Cymru
20 Ionawr 2016Croesawodd y Cyngor Llyfrau y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru na fydd y diwydiant cyhoeddi yn wynebu toriad ariannol yn y flwyddyn ariannol nesaf gan ddatgan eu diolch am yr holl gefnogaeth a gafwyd dros yr wythnosau diwethaf. Darllen Mwy -
Jonathan Edwards - Llywodraeth y DU yn rhoi anghenion Tsieina o flaen y diwydiant dur yng Nghymru
20 Ionawr 2016Mae AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards AS wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o fod yn 'chwifio baner' Tsieina gan fethu a diogelu'r diwydiant dur yng Nghymru rhag dur rhâd yn cael ei fewnforio o'r wlad. Darllen Mwy -
AS Plaid Cymru yn galw am dorri cyfraniad yswiriant gwladol cyflogwyr i helpu gweithwyr y diwydiant dur
19 Ionawr 2016Mae AS Plaid Cymru Jonathan Edwards wedi cyhuddo llywodraeth y DU o fethu ag amddiffyn y diwydiant dur yng Nghymru o ansefydlogrwydd yn y farchnad, gan alw ar y Llywodraeth i weithredu mesurau fel torri cyfraniad yswiriant gwladol cyflogwyr ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd er mwyn ymateb yn erbyn effaith colli swyddi. Darllen Mwy -
Cyfle i glywed mwy am y cynlluniau i ailddatblygu’r Hen Goleg
19 Ionawr 2016Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ddydd Iau 21 Tachwedd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau ar gyfer ailddatblygu'r Hen Goleg. Darllen Mwy -
Cyfraith arloesol yn ymwneud â rhentu cartrefi yn cael Cydsyniad Brenhinol
19 Ionawr 2016Mae deddfwriaeth arloesol i wella bywydau miliwn o bobl yng Nghymru sy'n rhentu eu cartrefi wedi cael Gydsyniad Brenhinol gan Ei Mawrhydi'r Frenhines. Darllen Mwy -
Dagrau Angie Bowie
19 Ionawr 2016 | Gan WYNFORD ELLIS OWEN, Prif Weithredwr Stafell Fyw CaerdyddPan gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf yn drist iawn fod y chwedl roc David Bowie wedi marw, un o’r ychydig bobl na chlywodd ar unwaith oedd ei gyn wraig, Angie. Darllen Mwy -
Bron i 300 o awduron ac ysgolheigion Cymraeg yn llofnodi llythyr yn pryderu am Gyngor Llyfrau Cymru
19 Ionawr 2016Mae bron i 300 o awduron ac ysgolheigion Cymraeg wedi llofnodi llythyr at Lywodraeth y Cynulliad yn mynegi pryder am y toriadau enfawr i gyllideb Cyngor Llyfrau Cymru erbyn y flwyddyn nesaf. Darllen Mwy -
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus yn herio San Steffan ynghylch y Bil Undebau Llafur a'i effaith niweidiol
19 Ionawr 2016Mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, yn mynnu bod Llywodraeth y DU yn diwygio ei deddfwriaeth fel na fydd ei Bil Undebau Llafur yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Darllen Mwy -
Data’n dangos pa mor eang oedd llifogydd Rhagfyr
19 Ionawr 2016Mae data newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dangos beth oedd graddfa lawn y llifogydd a effeithiodd ar Gymru yn ystod mis Rhagfyr. Darllen Mwy -
Penderfyniad i ddileu grantiau cynnal a chadw myfyrwyr â goblygiadau uniongyrchol ar fformiwla cyllido Cymru
19 Ionawr 2016Mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams AS wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o anwybyddu myfyrwyr anabl a myfyrwyr o'r cefndiroedd tlotaf rhag cael mynediad i brifysgolion, wrth i ymgais olaf gael ei gwneud i atal grantiau cynnal myfyrwyr rhag cael eu sgrapio. Darllen Mwy -
Llys Prifysgol Bangor yn mynegi pryder dwys ynghylch toriadau cyllid arfaethedig i addysg uwch yng Nghymru
18 Ionawr 2016Yn ystod cyfarfod blynyddol Llys Prifysgol Bangor mynegwyd pryder dwys ynghylch y gostyngiad sylweddol yn y cyllid i brifysgolion yng Nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016/17, a'r goblygiadau i economi a chymdeithas Cymru’n ehangach. Darllen Mwy -
Cynllun newydd tair blynedd i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru
18 Ionawr 2016Heddiw, cyhoeddodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod gwella gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl a phobl hŷn â dementia ymysg blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf. Darllen Mwy -
Cwympo coed i ymladd clefyd yn Nant yr Arian
18 Ionawr 2016Mae ail gam gwaith sylweddol i gwympo coed bellach wedi cychwyn mewn canolfan boblogaidd yng nghanolbarth Cymru i arafu lledaeniad clefyd sy’n heintio coed llarwydd. Darllen Mwy -
Cynlluniau Plaid Cymru am y GIG i ostwng amseroedd aros a gwella mynediad at ofal
18 Ionawr 2016Plaid Cymru yw’r unig blaid i addo integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn gostwng amseroedd aros a rhoi gwell mynediad at ofal i bawb, dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol y blaid, Elin Jones. Darllen Mwy