Mwy o Newyddion
Diwydiant dur Cymru “yn rhy bwysig i’w golli”: Rhun ap Iorwerth
Mae Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru wedi galw am sefydlu tasglu i archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru amddiffyn y diwydiant dur yng Nghymru yn well.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod angen gwneud mwy i amddiffyn y diwydiant, sydd yn wynebu argyfwng.
Bu mwy a mwy o ddyfalu am bosibilrwydd cau gwaith dur Port Talbot, sydd yn cyflogi 3,500 o bobl. Mae hefyd pryder cynyddol am safleoedd eraill.
Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi: “Mae effaith posib cau Port Talbot yn llwyr, ynghyd â safleoedd eraill ledled Cymru, sydd yn cyflogi dros 20,000 yn uniongyrchol a thrwy gadwyni cyflenwi, a’i gyfraniad i’n GVA, yn rhy ofnadwy i’w ddychmygu.
“Dydw i ddim yn credu y gall Llywodraeth Cymru barhau i fod yn sylwebyddion disymud wrth i’r sefyllfa barhau i ddirywio, ac yr wyf felly yn galw am sefydlu tasglu a fydd yn mynd ati ar unwaith i archwilio pob dewis o ran amddiffyn ein diwydiant dur yng Nghymru.
“Pan wyf yn sôn am bob dewis, rwy’n credu fod set o atebion posib yn gorfod cynnwys archwilio’r posibilrwydd o Lywodraeth Cymru yn cymryd cyfranddaliad dros dro yn y diwydiant dur yng Nghymru os digwydd i gyhoeddiad sydyn am gau gael ei wneud.
Mae cynsail i hyn yn yr Eidal a’r Almaen, lle mae cymhorthdal cymorth gwladwriaethol i gwmnïau dur dan berchnogaeth breifat wedi’i wahardd, ond mae cymryd cwmni dur i berchnogaeth rannol neu gyfan gwbl gyhoeddus er mwyn diogelu swyddi yn cael ei ganiatáu.
“Dylid troi pob carreg mewn perthynas ag archwilio’r opsiynau ar gyfer diogelu’r swyddi hyn.”