Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Ionawr 2016
Gan KAREN OWEN

Yr Urdd - Ymlaen am y canmlwyddiant

Fe allai mudiadau'r Urdd a'r Ffermwyr Ifanc fod yn "bartneriaid" o dro i dro yn y dyfodol, ond fydd y ddau fudiad ieuenctid ddim yn closio er mwyn dod trwy'r wasgfa ariannol bresennol.

Dyna farn Prif Weithredwr newydd Urdd Gobaith Cymru, yn ei chyfweliad cyntaf gyda'r wasg yr wythnos hon.

Ar ddiwedd ei hail ddiwrnod yn y swydd ddydd Mawrth (Ionawr 5), roedd Sioned Hughes yn glir ei bod am weld y mudiad ieuenctid a sefydlwyd yn 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards, yn tyfu yn y blynyddoedd nesaf.

O ran targedau, mae hi am weld y mudiad yn gweithredu ym mhob ysgol Gymraeg yng Nghymru - rhywbeth sydd ddim yn digwydd ar hyn o bryd - a hynny erbyn dathliadau'r canmlwyddiant yn 2022. Fe fyddai hynny, meddai, yn mynd â'r Urdd, ei werthoedd a'i amrywiol brofiadau at fwy o ddysgwyr yr iaith a'u rhieni di-Gymraeg.

Ac mae Sioned Hughes eisiau gweld y 55,000 o aelodau'n cynyddu, er nad oes ganddi ffigwr pendant y mae'n anelu ato. 

Mae hi hefyd yn hyderus y bydd ceisiadau am grantiau gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwaith y mudiad ymysg plant a phobl ifanc ar hyd a lled Cymru dros y tair blynedd nesaf, yn llwydiannus - a hynny mewn cyfnod o doriadau a phan mae mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn wynebu argyfwng ariannol dan eu trefn ariannu sirol.

"Dw i'n siwr bod yna le a chyfleoedd i'r Urdd greu a chynnal partneriaethau gyda nifer o fudiadau a sefydliadau," meddai Sioned Hughes wrth Y Cymro, "ond fyddwn ni ddim yn closio at y Ffermwyr Ifanc, fel y cyfryw.

"Maen nhw'n ddau fudiad ar wahân, mae gan y ddau fudiad ei eisteddfod, ond maen nhw hefyd yn gwasanaethu pobol wahanol. 

"Felly, mae yna le i'r Urdd gydweithio efo llawer o gyrff a sefydliadau - o Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, S4C, y BBC a'r Ffermwyr Ifanc, o bosib - ond dau fudiad gwahanol ydyn nhw."

Gyda llwyddiant yr Urdd i dynnu oddi ar  ffynonellau arian cyhoeddus, fe ddaeth yr Urdd yn fwy o ran o beirianwaith Llywodraeth Cymru wrth ariannu gwaith ymysg pobl ifanc ac mewn ardaloedd difreintiedig.

Ond gyda'r nawdd, fe ddaw'r cwestiwn: a ydi derbyn arian gan lywodraeth Bae Caerdydd yn golygu ticio bocsys a gweithredu mwy gwleidyddol, yn hytrach na diwylliannol, gan fos y mudiad?
Eisoes, fe ddaeth ymweliad Carwyn Jones, Prif Weithredwr Cymru, ag Eisteddfod yr Urdd ar y dydd Iau yn ddigwyddiad blynyddol, gyda'r gwleidydd yn gwneud araith yn ogystal â chyflwyno gwobrau oddi ar y prif lwyfan. 

"Dw i ddim yn ei weld o fel ticio bocsys," meddai Sioned Hughes, gan ddefnyddio ei phrofiad blaenorol yn y sector tai cymunedol i egluro ei phwynt.

"Yn y byd hwnnw, mae pwyslais mawr ar i'r rhai sy'n derbyn arian cyhoeddus i ddangos sut maen nhw'n defnyddio'r arian. 

"Mae'n anodd i mi ddweud pa mor wleidyddol, efo 'g' fach, fydd fy swydd i, ond dw i'n gwybod fod Efa (Gruffydd Jones, ei rhagflaenydd) wedi gweithio'n galed ar lefel pwyllgorau er mwyn dod a'r Urdd yn rhan o gynlluniau'r Llywodraeth.

"Dw i eisiau adeiladu ar y gwaith da sydd wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwetha'."

Un adran o waith yr Urdd sydd wedi tyfu'n aruthrol dros y degawd diwethaf, ydi'r gweithgareddau chwaraeon. Mae 19 aelod o staff yr adran hon yn hyfforddi 1,000 o wirfoddolwyr bob blwyddyn, a'r rheiny'n cynnal sesiynau a digwyddiadau ledled Cymru.

Fe ddaeth Gemau'r Urdd yn ddigwyddiad o bwys hefyd.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud be' ydan ni'n wneud yn dda," meddai'r Prif Weithredwr. "Hynny ydi, nid jyst gwneud pethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Os ydan ni'n cynnal gwersi nofio yn Gymraeg, mae o'r un mor bwysig â'r ffaith bod y sesiynau yn Gymraeg, fod y plant yn dysgu nofio hefyd!

"Mae'n bosib, wrth gwrs, bod aelodau mewn gwahanol ardaloedd yn gweld yr Urdd yn fudiad gwahanol iawn i'w gilydd, yn dibynnu ar be' ydi eu diddordeb nhw.

"Mae'n dibynnu hefyd ar draddodiad yr ardal lle maen nhw'n byw - ambell ardal yn arbenigo neu'n canolbwyntio ar yr eisteddfod, ardal arall ar chwaraeon - ac mae hynny'n dibynnu ar y gwirfoddolwyr.

"Y peth ydi fod yna ddeng mil o wirfoddolwyr gynnon ni, ac mae cymaint o bobol yn dod i gysylltiad efo'r Urdd, mewn gwahanol ffyrdd. Mae hynny'n anhygoel.

"Pan ydan ni'n gweld Cymry ar raglenni fel Britain's Got Talent, maen nhw bob amser yn sôn am eu profiadau efo'r Urdd pan oeddan nhw'n ifanc… felly mae'r mudiad yn rhoi profiadau gwerthfawr i bobol."

Ond fel mudiad Cymraeg - yn wahanol i'r Ffermwyr Ifanc dwyieithog - y cafodd Urdd Gobaith Cymru Fach ei sefydlu yn 1922, a hynny yn y flwyddyn y bu Syr Ifan ab Owen Edwards yn ysgrifennu'n boenus yn ei golofn olygyddol yn y cylchrawn, Cymru'r Plant, am nifer y plant oedd yn chwarae trwy gyfrwng y Saesneg ar fuarthau ysgol.

Mae'r un diffyg defnydd o'r iaith Gymraeg yn poeni athrawon ac ymgyrchwyr heddiw. A ydi hynny'n golygu fod yr Urdd wedi methu yn ei waith?

"Na, dydi'r Urdd ddim wedi methu," meddai Sioned Hughes, "ond mae'n ddiddorol gweld fod yr hyn yr oedd Syr Ifan yn ei ddweud yn dal i fod mor gyfredol!

"Mae'n rhaid i ni roi cyfleoedd i blant a phobol ifanc ddefnyddio'r iaith, ac mae'n rhaid normaleiddio'r iaith, fel eu bod nhw yn teimlo y gallan nhw ddefnyddio'r Gymraeg.

"Mae'r Urdd yn dal i roi gobaith, achos mae yna 55,000 o aelodau yn cymryd rhan mewn pob math o weithgareddau. Mae hynny'n rhywbeth i fod yn falch ohono fo."

Gyda'r arwyddair gwreiddiol - "Cymru, cyd-ddyn, Crist" eisoes wedi'i gwtogi i'r ddwy elfen gyntaf yn unig - "Cymru a chyd-ddyn" - mae angen i'r Urdd estyn allan at ddysgwr, meddai'r Prif Weithredwr newydd.

"Mae'r hen arwyddair wedi mynd ers cwpwl o flynyddoedd bellach, ond mae'r arwyddair newydd yn cyplysu pawb sy'n byw yng Nghymru.

"Mae'r Urdd yn cynnal cyrsiau ar sut i ddeall pob math o grefyddau, ac mae hynny'n bwysig."

 

Yr Urdd - y ffeithiau
* Mae bron i un o bob tri (30%) o blant a phobol ifanc Cymru rhwng 8 a 25 oed, yn aelod o'r Urdd;
* Mae Urdd Gobaith Cymru yn cyflogi 260 o staff;
* Mae 10,000 o wirfoddolwyr yn gwneud gwaith yr Urdd ledled Cymru yn bosibl;
* Mae gan yr Urdd 900 o ganghennau, a 200 o adrannau cymunedol;
* Mae'r Urdd yn cynnal 150 o glybiau chwaraeon sy'n cyfarfod yn wythnosol;
* Mae'r Urdd yn cyflogi 17 o Swyddogion Datblygu ledled Cymru. Yn 2014, fe benodwyd 6 o Ddirprwy Swyddogion Datblygu, trwy gymorth grantiau.
 

Rhannu |