Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Ionawr 2016

Blwyddyn newydd, her newydd

2016 yw Blwyddyn Antur Cymru; dyma’ch cyfle i wneud rhywbeth anturus. Mae llu o wahanol fathau o anturiaethau y gallwch eu gwneud, ac mae rhai o’r digwyddiadau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn cynnig heriau delfrydol ar gyfer 2016. 

Er enghraifft, cynhelir Hanner Marathon y Byd yr IAAF yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn y Pasg, 26 Mawrth.

Bydd dros 200 o athletwyr gorau’r byd, o 50 o wledydd, yn dod i Gaerdydd i frwydro am deitl Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd.

Ochr yn ochr â hynny, bydd hyd at 20,000 o redwyr eraill yn manteisio ar y cyfle  unigryw i redeg yn ôl troed y pencampwyr drwy ymuno â nhw ar y cwrs eiconig, 13.1 milltir o hyd, o gwmpas Caerdydd.

Hefyd, mae cofrestru ar gyfer y Velothon bellach ar agor.  Ar 22 Mai, bydd y ffyrdd yn cael eu cau i gynnal ras agored ochr yn ochr â ras broffesiynol a gymeradwyir gan UCI - mae Velothon Cymru 2016 yn argoeli i fod yn benwythnos gwych o seiclo.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:  “Eleni yw Blwyddyn Antur Cymru a fydd yn dathlu popeth rydyn ni’n ei gynnig fel cyrchfan antur.

"Yn ddiweddar, gwnaeth y Rough Guide enwi Cymru fel un o’r lleoedd gorau i ymwelwyr yn 2016, gan ddweud mai Cymru yw 'one of the finest natural playgrounds in Europe'. 

"Mae’r Velothon a Hanner Marathon y Byd yn gyfle gwych i bobl gymryd rhan mewn her yn ystod Blwyddyn Antur 2016.

“Mae’r ddau ddigwyddiad hwn yn enghreifftiau o’r twf yn nigwyddiadau chwaraeon yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.

"Gall digwyddiadau fel hyn fod yn llesol i’r rheini sy’n cymryd rhan, a hefyd ysbrydoli’r gwylwyr i gymryd rhan mewn chwaraeon eu hunain.

"Byddai hynny, yn ei dro, yn cael effaith bositif ar iechyd y genedl yn gyffredinol.

"Blwyddyn Antur 2016 yw’r cyfle delfrydol i roi cynnig ar rywbeth newydd.”

Nod Croeso Cymru wrth bennu thema ar gyfer y flwyddyn yw creu ffocws ar gyfer buddsoddi cyllid, datblygu prosiectau a marchnata.

Bydd Blwyddyn Antur 2016 yn gweld ton o leoliadau a datblygiadau newydd cyffrous yn agor; dyma ganlyniad dros 10 mlynedd o fuddsoddi i wneud Cymru yn un o brif gyrchfannau antur y DU.
 

Rhannu |