Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Ionawr 2016

Newidiadau pwysig i Fedal y Dysgwyr

Eleni bydd Medal Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd yn cael ei thrawsnewid.  Mi fydd y gystadleuaeth am y tro cyntaf gyda’r ffocws ar gyfathrebu yn y Gymraeg yn hytrach na darn ysgrifenedig, ac oedran cystadlu yn cael ei ymestyn o 19 i 25 oed.

Gall unigolion wneud cais eu hunain neu fe all rhywun arall eu henwebu, gyda’r pwyslais yn cael ei roi ar y defnydd maent yn ei wneud o’r Gymraeg yn y gymuned a safon y cyfathrebu.

Wedi cwblhau ffurflen gais syml mi fyddant wedyn yn cael eu gwahodd i Lan-llyn i wneud amrywiol dasgau gan gynnwys adeiladu tîm ac yn cael eu cyfweld gan y beirniaid sef Nia Parry ac Enfys Davies.

Bydd y tri sydd ar y brig wedyn yn cael eu gwahodd i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Fflint ac yn treulio’r bore yn gwneud amrywiol dasgau megis gweithio yn y Ganolfan Groeso / bwth tocynnau, gwneud cyfweliad gyda’r cyfryngau – gydag enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar y prif lwyfan yn y prynhawn.

Mae’r newid wedi ei sbarduno gan Banel Dysgwyr Canolog yr Urdd.

Llinos Penfold, Cadeirydd y Panel, fu’n egluro: “Roeddem yn teimlo ei bod yn amser newid ychydig ar y gystadleuaeth gan dynnu’r ffocws oddi ar yr elfen academaidd a’i hagor i unigolion sydd yn frwdfrydig iawn dros yr iaith ond falle ddim mor gryf yn ysgrifennu.

"Mae’n wych fod yr Urdd wedi derbyn ein hargymhellion – rydym yn teimlo ei bod bellach wedi ei thrawsnewid.

“Mi fydd dipyn o bwysau ar y beirniaid i ddewis enillydd rhwng gorffen y tasgau yn y bore a’r seremoni yn y prynhawn ond dwi’n creu y bydd dipyn o gyffro hefyd gan na fydd y cystadleuwyr yn gwybod pwy sydd wedi ennill chwaith nes i’r enw gael ei gyhoeddi ar y llwyfan.”

Ychwanegodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: “Mae’r newidiadau hyn sydd wedi eu rhoi ar waith yn gyffrous iawn – does dim newid mawr wedi bod i feini prawf Medal y Dysgwyr ers dros 20 mlynedd.

"Dwi’n credu y bydd y newidiadau yn agor y gystadleuaeth i garfan newydd o bobl ifanc sy’n frwdfrydig dros ddysgu’r iaith.”

Mae ffurflen gais ar gyfer cystadlu neu enwebu i’w gweld ar wefan yr Urdd – urdd.cymru/eisteddfod.  Dyddiad cau cystadlu yw y 1af o Fawrth 2016. 

Llun: Enillydd Dysgwyr y Flwyddyn 2015 Gary Bevan

Rhannu |