Mwy o Newyddion
Leanne Wood: Gweledigaeth am Gymru o fewn Ewrop ddiwygiedig
MAE Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi amlinellu gweledigaeth ei phlaid am Gymru gref o fewn yr UE, gan ddadlau y dylid diwygio, nid gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Wrth ysgrifennu yn y Sunday Times ddoe, dywedodd Leanne Wood tra bod nifer o gwestiynau a phryderon dilys wedi eu codi ynghylch diwygio penodol o fewn yr UE, mae'r rhain yn cael eu trechu gan y buddiannau i sector amaeth, sefydliadau addysg uwch ac isadeiledd trafnidiaeth Cymru.
Rhybuddiodd hi yn erbyn undeb wleidyddol agosach sy'n bygwth uwch-wladwriaeth Ewropeaidd gan alw am lais cryfach i Gymru wrth y bwrdd.
Wrth ysgrifennu yn y Sunday Times, dywedodd Leanne Wood: "Mae nifer o gwestiynau a phryderon dilys wedi eu codi ynghylch diwygiadau penodol o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ond ma'r buddiannau i sector amaeth Cymru, ein sefydliadau addysg uwch, isadeiledd trafnidiaeth a rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig yn llawer mwy niferus.
"Serch hyn, mae'r undod sydd ei angen i ddadlau'r achos argyhoeddedig dros barhad aelodaeth y DG o'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei fygwth gan raniadau chwerw o fewn y Blaid Lafur, ynghyd â phenderfyniad rhyfedd ac anghyfrifol y Prif Weinidog i adael i'w Weinidogion ei hun ymgyrchu yn ei erbyn ef a'i Lywodraeth.
"Felly, mae disgwyl i Blaid Cymru - fel ffrind agos ond beirniadol o'r Undeb Ewropeaidd - hyrwyddo buddiannau niferus aelodaeth, craffu ar gynlluniau negodi'r Prif Weinidog, a chynnig cynlluniau amgen positif.
"Mae'r mater o sofraniaeth Cymru yn hollbwysig i ni ym Mhlaid Cymru. Rydym yn cefnogi 'undeb agosach pobl Ewrop' ond nid undeb wleidyddol fwy clos sy'n bygwth creu uwch-wladwriaeth Ewropeaidd.
"Byddem yn croesawu undeb agosach pobloedd drwy roi llais cryfach i gymunedau, rhanbarthau a chenhedloedd, yn hytrach chomisiwn UE cynyddol bwerus a chanoledig heb ei ethol.
"Mae Plaid Cymru wedi bod yn hynod feirniadol o'r cytundeb TTIP - bargen gyfrinachol sy'n ymddangos i fod yn elwa corfforaethau mawr yn bennaf. Mae 99% o gwmniau Cymreig yn gwmniau bach a chanolig - nhw yw asgwrn cefn yr economi Gymreig ac ni ddylent ddioddef anfantais gystadleuol o gymharu â chwmniau mawr.
"Carem hefyd weld rheolau caffael a chymorth gwladwriaethol yn cael eu hail-feddwl i ganiatau i ymyrraeth lywodraethol elwa busnesau cartref. Gall hyn alluogi llywodraeth Cymru'r dyfodol i fuddsoddi'n well mewn diwydianau megis dur Cymreig sy'n hanfodol i'n heconomi.
"Yn y pen draw, y ffactor bwysicaf yn y refferendwm Ewropeaidd yw sicrhau fod ewyllys pobl Cymru yn cael ei chydnabod a'i pharchu, beth bynnag y bo.
"Gyda'r mwyafrif o bolau diweddar yn dangos mwyafrif yn yr Alban a Chymru o blaid aros, gyda mwyafrif yn Lloegr yn debygol o bleidleisio i adael, mae perygl y bydd canlyniad y refferendwm yn cael ei benderfynu gan ddymuniad y genedl fwyaf.
"Plaid Cymru oedd y blaid gyntaf i gefnogi'r syniad o ddatgan canlyniad pob rhan o'r DG arwahan, gan ddadlau na ddylai'r DG adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb rhwng y pedair cenedl.
"Rydym yn parhau i arddel y safbwynt hwn a chredwn y byddai unrhyw beth llai yn sarhad i ddemocratiaeth."