Mwy o Newyddion
Dysgu iaith newydd ymysg 10 uchaf addunedau Blwyddyn Newydd
Mae dysgu Iaith newydd ymysg y 10 uchaf o ran addunedau blwyddyn newydd.
Mae dysgu Iaith ar y rhestr gyda’r addunedau amlwg fel rhoi’r gorau i ysmygu; yfed llai; a bwyta’n fwy iach.
Gyda thua 250 o bobl yn mynychu Ysgolion Calan Dysgu Cymraeg, Prifysgol Bangor ym Mangor a’r Wyddgrug eleni, fe welwn fod dysgu’r Gymraeg yn uchel ar yr agenda yng Ngogledd Cymru.
Roedd rhai o’r mynychwyr yn cyfaddef fod ganddynt fwy nag un adduned blwyddyn newydd ar gyfer 2016, ond ar y cyfan roedd bwrw iddi i ddysgu’r Gymraeg yn adduned benderfynol gan bawb oedd yno.
Mae Bethan Herocks yn ddylunydd graffeg gyda Varcity Living, Bangor. Mae hi’n fam i ddau o blant ac yn disgwyl ei thrydydd. Ei dymuniad hi yw: "I ddod yn rhugl yn y Gymraeg er mwyn cael cyfrannu’n llawn i fywyd dwyieithog fy mhlant.”
Nododd llawer resymau gwaith a gyrfa dros ddysgu Cymraeg.
Mae Gaz Williams yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr yng nghanolfan ‘Pontio’, a Naomi Havercrofft yn swyddog addysg yng nghanolfan awyr agored ‘Arete’ yn Llanrug.
Mae’r ddau yn benderfynol eu bod am lwyddo i siarad Cymraeg, ac yn ei weld fel rheidrwydd os dach chi’n byw yn yr ardal yma.
Dywedodd Naomi Havercrofft: “Y prif beth ydy medru teimlo’n rhan o’r ardal, ond mae dysgu Cymraeg hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd i chi o ran gwaith.”
Mae’r fyfyrwraig PhD, Jenny Shepperson wedi bod yn astudio gydag Ysgol Gwyddorau’r Moroedd ym Mhorthaethwy ers dwy flynedd. Byddai’ wir yn hoffi’r cyfle i aros yn yr ardal yn dilyn ei hymchwil.
“Byddwn yn caru aros yma. Dwi’n dysgu Cymraeg achos fod pawb arall yn ei siarad, neu o leiaf yn dallt yr Iaith,” meddai.
I’r gŵr busnes Nicholas Grenfell-Marten bydd dysgu Cymraeg yn allweddol wrth iddo sefydlu ei fusnes gwely a brecwast yn Ynys Mon. Mae’n sylweddoli y bydd medru siarad yr Iaith yn hanfodol wrth ddelio gyda chwmniau a busnesau lleol.
Eglurodd: “Mae’r Iaith yn allweddol er mwyn dod yn rhan o’r gymuned ac er mwyn ennill parch yn lleol.”
Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn cynnig Ysgolion Calan Dysgu Cymraeg ers dros 10 mlynedd. Dydy’r niferoedd uchel sy’n mynychu yn ddim syndod i Elwyn Hughes, dirprwy gyda Chymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor.
Meddai: “Mae cwrs dwys tri diwrnod yr union beth mae pobl yn edrych amdano ar ddechrau blwyddyn.
"Dach chi’n medru adeiladu ar y momentwm wedyn drwy ganfod cyrsiau ar draws Gogledd Cymru ar ein gwefan www.learncymraeg.org.”
Llun: Bethan Herocks