Mwy o Newyddion
Gwilym Owen i aros yn y Llys
Newyddiadurwr yn derbyn ymddiheuriad gan yr Eisteddfod Genedlaethol
FYDD Gwilym Owen ddim yn ymddiswyddo o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol, a hynny wedi i'r brifwyl ymddiheuro iddo am sylwadau a wnaed amdano mewn llythyr yn y wasg.
Roedd y newyddiadurwr wedi cyhoeddi ei fod yn torri pob cysylltiad gyda'r corff sy'n rheoli'r Eisteddfod Genedlaethol, trwy ymddiswyddo'n gyhoeddus o fod yn aelod o Lys y Brifwyl yn ei golofn yng nghylchgrawn Golwg heddiw (dydd Iau, Ionawr 7).
Fe ddaeth hynny wedi i lythyr yn enw Garry Nicholas, Llywydd y Llys, ymddangos yn Golwg fis diwethaf, yn cyhuddo'r colofnydd o ddefnyddio ei ysgrifau i feirniadu'r Eisteddfod a'r modd y mae'n cael ei rhedeg, ac o "guddio" y tu ôl i'w golofnau yn y wasg yn hytrach na beirniadu "wyneb yn wyneb".
Mae'n ymddangos mai paragraff olaf y llythyr hwnnw, lle mae Garry Nicholas yn cynnig trefnu bod y darlledwr 84 oed yn cael ei ethol yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod - a hynny er ei henoed - oedd wedi gwylltio Gwilym Owen.
Ac ar sail yr hynny yr oedd y newyddiadurwr ar ddiwedd ei golofn ddiweddaraf yn cyhoeddi ei fod yn "dileu ei aelodaeth" o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ddatgan hefyd y dylai Llywydd y Llys a chynrychiolwyr eraill y brifwyl ymddiheuro iddo.
Mae'n ymddangos fod siwtiau'r brifwyl wedi ymddiheuro am rai cymalau yn y llythyr, ac mae Gwilym Owen wedi derbyn yr ymddiheuriad a thynnu ei ymddiswyddiad yn ôl.
Gwilym a'r Llys
Mae Gwilym Owen wedi bod yn aelod o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1997, y flwyddyn y cafodd ei urddo i'r wisg wen er anrhydedd gan Orsedd y Beirdd am ei gyfraniad i newyddiaduraeth Gymraeg. Bryd hynny, roedd yn ofynnol i bob aelod newydd o'r Orsedd hefyd ymaelodi â'r Llys.
Yn ei "ymdddiswyddiad" yn ei golofn heddiw, mae Gwilym Owen yn dweud yn glir y byddai'n "loes calon" iddo pe bai ei benderfyniad i adael y Llys yn golygu ei fod yn cael ei ddiarddel o'r Orsedd hefyd. Yn gyfansoddiadol, fyddai hynny ddim yn debygol o ddigwydd, gan fod yr Orsedd yn gorff annibynnol hollol oddi wrth yr Eisteddfod Genedlaethol.
Erbyn hyn, mae hi'n bosibl i unrhyw un sy'n ei ystyried ei hun yn 'gyfaill' i'r Eisteddfod ymaelodi â'r Llys ar gost o £10 y flwyddyn, neu dalu aelodaeth oes o £100. Mae'r Llys yn cyfarfod unwaith y flwyddyn, fel rheol ar fore Gwener yr Eisteddfod Genedlaethol, ym Mhabell y Cymdeithasau ar y Maes.
O blith 2,500 aelodau'r Llys y mae aelodau Cyngor yr Eisteddfod yn cael eu hethol - corff o tua 50 o gynrychiolwyr sy'n cyfarfod deirgwaith y flwyddyn er mwyn craffu ar weithgareddau'r Bwrdd Rheoli (y panel o tua 15 o ymddiriedolwyr sy'n gwneud y penderfyniadau dydd-i-ddydd o ran rhedeg y Brifwyl).
Garry v Gwilym - y ddadl hyd yn hyn
Y berthynas rhwng y Llys, y Cyngor a'r Bwrdd Rheoli sydd wedi bod dan drafodaeth yn ddiweddar, gyda rhai aelodau ieuengaf y Cyngor yn cwestiynu beth ydi rôl y cyfryw adrannau.
Fe ddaeth yr holi i benllanw yng nghyfarfod y Cyngor yng Nghil-y-coed fis Gorffennaf diwethaf, gyda Heledd Fychan yn gofyn beth oedd diben bod yn aelod o'r Cyngor, rhagor na throi i fyny i godi llaw wedi i benderfyniadau eisoes gael eu pasio gan y Bwrdd Rheoli.
Ac yn dilyn adroddiad yn y papur hwn o gyfarfod Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth fis Tachwedd, lle cafwyd amlinelliad o gyfrifoldebau'r Cyngor, y dechreuodd y ffrae ddiweddaraf hon.
Mewn ymateb i stori Y Cymro, fe symbylwyd Gwilym Owen i holi cwestiynau am:
* ddoethineb y bwriad i geisio cynnal eisteddfod "ddi-faes" yng Nghaerdydd yn 2018;
* addasrwydd cynnig costau teithio o 12c y filltir a chostau gwesty o hyd at £50 y noson i aelodau pwyllgorau a phanelau canolog;
* y ffaith na chafodd eitem 'Unrhyw Fater Arall' ei chynnwys ar agenda cyfarfodydd y Cyngor ers saith mlynedd - yn ei eiriau ef, "Bwrdd Rheoli Rwls" oedd hi mewn trefn ddylai fod yn un ddemocrataidd.
Mewn ymateb i sylwadau Gwilym Owen, fe gyhoeddwyd llythyr yn Golwg ar Ragfyr 17 yn enw Garry Nicholas, Llywydd y Llys, ac ar ran "yr Eisteddfod" oedd yn teimlo bod angen cywiro camargraffiadau.
"Anaml iawn y bydd yr Eisteddfod yn ymateb i golofn neu lythyr sy'n ymddangos yn ein papurau dyddiol neu mewn cylchgronau," meddai'r llythyr, "ond rydym yn teimlo bod angen cywiro rhai o'r ffeithiau yng ngholofn Gwilym Owen yr wythnos ddiwethaf, ynglŷn â'r ffordd y mae'r Eisteddfod yn gweithredu'n ddemocrataidd."
Mae'r llythyr yn cymryd bod darllenwyr "yn ymwybodol nad yw Gwilym Owen yn or-hoff o'r hyn y mae'n ei alw 'y jyncet fawr flynyddol', ac yn bachu ar bob cyfle i weld bai ac i ladd ar yr Eisteddfod a'i gwaith.
"Yn aml," meddai'r llythyr wedyn, "mae ei golofnau'n cwestiynu rôl Cyngor yr Eisteddfod, ac mae wedi awgrymu bod y Bwrdd Rheoli yn gweithredu mewn modd unbenaethol… mae'n dewis ymosod ar yr Eisteddfod yn gyhoeddus drwy'i golofn..."
Gan gyfeirio at yr enghreifftiau uchod, mae Garry Nicholas yn tynnu sylw at y ffaith na fu Gwilym Owen mewn cysylltiad â swyddfa'r brifwyl yn uniongyrchol i fynegi ei bryderon, gan arwain at y paragraff clo hwn:
"Os yw Gwilym Owen mor barod i feirniadu'r 'Sanhedrin', ys dywed yntau, fe fyddwn i'n ddigon parod i'w enwebu fel aelod o'r Cyngor," meddai Garry Nicholas.
"Wedi'r cyfan, mae'r Eisteddfod yn hollgynhwysol ac mae lle i rywun o'i oed ef ar y Cyngor o hyd. Gallai wedyn leisio ei farn wyneb yn wyneb yn hytrach na chuddio y tu ôl i erthygl mewn cylchgrawn fel Golwg."
Ac wedi'r cynnig olaf hwn y penderfynodd Gwilym Owen "ddileu ei aelodaeth", cyn y daeth yr ymddiheuriad gan y sefydliad.