Mwy o Newyddion
Prosiectau ynni newydd yng Nghymru yn cael eu rhwystro gan allu annigonol y Grid Cenedaelthol
Mae AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts wedi tynnu sylw at yr anghysondeb rhwng bwriad Llywodraeth y DU i ddatganoli pwerau ynni pellach i Gymru a diffyg y Grid Cenedlaethol ar hyn o bryd i ddarparu ar gyfer prosiectau cynhyrchu ynni newydd.
Mae Liz Saville Roberts wedi galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau fod capasiti y grid yn cael ei uwchraddio ar frys, fel nad yw ymdrechion i gynyddu cynhyrchiant ynni yng Nghymru, gan gynnwys cynlluniau ynni adnewyddadwy, yn cael eu hatal rhag cael eu rhoi ar waith.
O dan Fesur Drafft Cymru, byddai cynlluniau ynni hyd at 350MW gael eu datganoli i'r Cynulliad, ond ar hyn o bryd nid oes unrhyw reolaeth dros gapasiti lle mae trosglwyddo yn y cwestiwn.
Wrth siarad cyn cwestiynau i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd, dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Mae Plaid Cymru wedi galw dro ar ôl tro i ddatganoli pŵerau dros brosiectau ynni mawr i Lywodraeth Cymru, gydag awydd arbennig i gynyddu capasiti prosiectau adnewyddadwy megis cynlluniau llanw.
"Ond fel y mae pethau’n sefyll, mae rhwydwaith hynafol y Grid Cenedlaethol yn achosi problemau trosglwyddo ar gyfer prosiectau ynni newydd.
"O ystyried bwriad Llywodraeth y DU i ddatganoli pwerau cydsynio ynni pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'n hanfodol bwysig bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod capasiti y Grid cael ei uwchraddio ac nad yw ymdrechion i ddatblygu prosiectau cynhyrchu ynni newydd yn cael eu dal yn ôl gan gymlethdodau capasiti’r Grid Cenedlaethol yng Nghymru.
"Mae grwpiau ynni cymunedol sy’n awyddus i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn cael eu hatal rhag gwneud hynny gan ffioedd gormodol maent yn gorfod eu talu i uwchraddio'r grid.
"Mae angen ymdrech ar y cyd gan ddarparwyr ynni a’r Llywodraeth fel nad yw cynlluniau cynhyrchu arfaethedig yn methu wrth y rhwystr cyntaf.
"Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i gynllun ynni sy'n wyrdd ac sy'n gallu pweru atgyfodiad economi Cymru gan fodloni ein rhwymedigaethau byd-eang wrth frwydro yn erbyn newid hinsawdd, ond i wneud hynny mae arnom angen y seilwaith a'r capasiti ynni sydd ar hyn o bryd yn ddiffygiol.
"Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru yn hunangynhaliol o ran trydan adnewyddadwy erbyn 2035 petawn mewn Llywodraeth.
"Mae'r Blaid wedi addo cyhoeddi map llwybr i 2035 o fewn 100 diwrnod o ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru ym mis Mai.”