Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Ionawr 2016

AS Plaid yn cyhuddo'r Llywodraeth o fusnesu mewn materion datganoledig o flaen rali i wrthwynebu mesur undebau Llafur

Mae AS Plaid Cymru Jonathan Edwards wedi cyhuddo'r llywodraeth o ‘anablu’ Undebau Llafur ac 'ymyrryd' ar faterion datganoledig, wrth i’r Mesur Undebau Llafur gael ei Ail Ddarlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi heno.

Bydd Jonathan Edwards AS yn annerch rali tu allan i'r Senedd i ategu gwrthwynebiad Plaid Cymru i'r Mesur ac ail-ddatgan ymrwymiad y Blaid i bleidleisio lawr unrhyw ymgais i ymosod ar hawliau sylfaenol gweithwyr Cymru.

Pleidleisiodd ASau Plaid Cymru yn erbyn y Mesur yn ei drydydd darlleniad fis Tachwedd, pan alwodd Plaid Cymru ar i Gymru gael ei heithrio o'r Mesur, gan nodi ei gynnwys fel 'ymosodiad uniongyrchol’ ar hawliau pobl sy'n gweithio ac 'ymyrraeth' ar bwerau datganoledig y Cynulliad Cenedlaethol .

Bydd Jonathan Edwards AS yn ymuno â chynrychiolwyr o undebau NAPO, yr NUT a BFAW, gyda chefnogaeth trawsbleidiol gan AS y Blaid Werdd, Caroline Lucas a Chris Stephens o'r SNP.

Meddai: “Mae gan y DU rai o'r deddfau Undebau Llafur mwyaf caeth yn y Gorllewin, ond eto mae'r Torïaid yn benderfynol o wanhau hawliau sylfaenol miliynau o weithwyr, gan dynhau gallu undebau llafur i weithredu'n ddiwydiannol.

"Mae mandad clir i Gymru gael ei dynnu o’r Mesur. Nid yw llywodraeth y DU wedi gwneud unrhyw ymdrech i ystyried  effeithiau’r Mesur ar Gymru, ac yn arbennig ar ein gwasanaethau cyhoeddus.

"Bydd ymdrechion Llywodraeth San Steffan i orfodi’r Mesur atchweliadol yma drwy’r Senedd yn fodd i gryfhau galwad Plaid Cymru dros ddatganoli cyfrifoldeb dros gyfraith cyflogaeth o San Steffan i'r Cynulliad Cenedlaethol.

"Dyna'r unig ffordd i amddiffyn hawliau gweithwyr Cymru o’r mesurau cosbol a chreulon hyn.

"Bydd Plaid Cymru yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i erfyn caniatâd Llywodraeth Cymru cyn y gall y rhannau mwyaf dadleuol o’r Mesur ddod i rym mewn perthynas â materion sydd wedi'u datganoli megis Iechyd, Addysg a Llywodraeth Leol.” 

Rhannu |