Mwy o Newyddion
Gwyriadau ar Lwybr Arfordir Penfro
Mae Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cael ei ddargyfeirio mewn dau le ar hyn o bryd o ganlyniad i ddifrod a achoswyd yn ystod y cyfnod diweddar o law trwm cyson.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r llwybr, ac mae wedi gosod gwyriadau dros dro ac mae’n gweithio gyda Chyngor Sir Penfro a thirfeddianwyr i adfer mynediad cyn gynted â phosib.
Dywedodd Anthony Richards, Rheolwr Mynediad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Hoffem ddiolch i aelodau o’r cyhoedd a fu’n cerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir yn ystod cyfnod y Nadolig am dynnu ein sylw ni at y problemau hyn.
“Mae arwyddion clir yn nodi'r gwyriadau a gofynnwn i bobl ddilyn y llwybrau dros dro tra bydd y gwaith o atgyweirio’r llwybr yn cael ei wneud.
"Rydyn ni’n ymwybodol y gallai’r gwaith hwn achosi anhwylustod ond mae’r gwyriadau yn angenrheidiol i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu parhau i fwynhau Llwybr yr Arfordir yn ddiogel.”
Pryderon a llwybrau sydd ar gau ar hyn o bryd:
* Clogwyn wedi cwympo rhwng Ceibwr a Phwll-y-Wrach ger Trewyddel. (Gwyriad byr i osgoi’r clogwyn.)
* Clogwyn wedi cwympo tua 1km i’r gorllewin o Draeth Aberbach, Dinas. (Llwybr ar gau ar hyn o bryd, llwybr mewndirol arall ar gael yn ei le.)
* Clogwyn wedi cwympo ar y ffordd yn Settlands Hill rhwng Little Haven ac Aberllydan. Mae Llwybr yr Arfordir yn dilyn llwybr y ffordd yn y fan hon. (Ffordd ar gau i gerbydau ar hyn o bryd ond ar agor i gerddwyr.)
* Craig wedi cwympo ar y llwybr beicio rhwng Wisemans Bridge a Coppet Hall. (Mae Cyngor Sir Penfro wedi cau’r llwybr tra bo arolygiadau’n cael eu cynnal, mae llwybr mewndirol arall ar gael.)
Mae Llwybr Arfordir Penfro yn 186 milltir o hyd a chaiff y llwybr, a sefydlwyd yn 1970 ac sy’n ddolen allweddol yn Llwybr Arfordir Cymru, ei gynnal gan Lwybr Arfordir Penfro gyda nawdd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Llun: Clogwyn wedi cwympo i’r gorllewin o Draeth Aberbach, Dinas.