Mwy o Newyddion
Galwad i rannu atgofion o becynnau cymorth bwyd y 1940au
O bwdinau Nadolig Hen Saesneg i dwrci tun a phecynnau o resins, gofynnir i bobl am eu hatgofion o becynnau cymorth bwyd Americanaidd yn y 1940au.
Cafodd yr elusen, a elwir bellach yn CARE International, ei sefydlu i ddechrau yn dilyn yr Ail Ryfel Byd i helpu i fynd i'r afael â'r prinder bwyd helaeth yn Ewrop.
Nawr, wrth i'r elusen Americanaidd ddathlu 70 o flynyddoedd ers ei sefydlu, mae Cyngor Abertawe'n cefnogi ei galwad i unrhyw rai ag atgofion o'r pecynnau cymorth bwyd eu rhannu ar-lein.
Meddai Kim Collis, Archifydd Sirol, "Ychydig iawn o bobl sy'n gwybod erbyn hyn bod y DU wedi derbyn cymorth bwyd a bod hyn o fewn cof rhai o aelodau hŷn ein cymuned, ond dyna oedd yr achos yn syth ar ôl yr Ail Ryfel Byd pan roedd bwyd wedi'i ddogni, ac roedd llawer o'r bwydydd rydym bellach yn eu cymryd yn ganiataol yn egsotig ac yn gwbl anghyfarwydd ym Mhrydain.
"Roedd pecynnau CARE o fwydydd tun a sych a anfonwyd gan deuluoedd yn UDA i deuluoedd yn y DU yn rhyddhad a groesawyd rhag yr amrywiaeth cyfyngedig o'r bwyd dogn a oedd ar gael yn y siopau.
"Gallai pecyn CARE Nadoligaidd nodweddiadol fod wedi cynnwys twrci tun, pwdin Nadolig Hen Saesneg traddodiadol, corn-bîff, pecynnau o resins a thuniau o eirin gwlanog yn ogystal â'r prif eitemau megis coffi, te a siwgr."
Ewch i www.careinternational.org.uk/showyouCARE/share-your-story neu www.facebook.com/WestGlamorganArchives i rannu'ch atgofion.
Mae rhai o'r atgofion sydd wedi cael eu rhannu hyd yn hyn yn cynnwys rhai Vera Howells o Essex.
Meddai: "Roedd y labeli ar goll ar rai o'r tuniau felly doedden ni ddim yn siŵr beth oedd ynddyn nhw, a oedd siwr o fod yn gwneud y profiad yn fwy cyffrous byth, ac roedden ni'n eu mwynhau 'ta beth.
"Rwy'n cofio bod rhai tuniau'n cynnwys ffrwythau. Roedd bob amser losin, siocledi a menyn pysgnau, rhywbeth doedden i ddim wedi'i flasu o'r blaen, ond roeddwn i'n dwlu arno o'r eiliad hwnnw, ac rwy'n dal i ddwlu arno."
Meddai Gillian Roberts, o Swydd Gaint: "Roedd y parseli bob amser yn llawn pethau annisgwyl gwych ac roedden ni bob amser yn llawn cyffro pan fyddem yn gweld lori Carter Paterson.
"Roedd bwyd yn cael ei ddogni o hyd yn y cyfnod hwnnw, felly roedd unrhyw beth o America yn flasus am ei fod mor wahanol i'r bwyd di-flas arferol a oedd ar gael.
"Mae fy atgofion o fod yn blentyn pedair oed, fel petaent yn cynnwys tun mawr iawn o eirin gwlanog tafellog brand Cling, tuniau o bys, tatws, llaeth anwedd a phecynnau o rawnfwyd."