Mwy o Newyddion
Lansio ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Safonau Ansawdd Bysiau Cymru Gyfan
Mae Llywodraeth Cymru'n ymgynghori ar gynigion i gyflwyno Safonau Ansawdd Bysiau Cymru Gyfan gwirfoddol ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol rheolaidd.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart: "Mae bysiau'n ei gwneud yn bosibl i lawer o bobl ledled Cymru fynd i'r gwaith a derbyn gwasanaethau.
"Bob dydd, mae 63,000 o bobl yn dibynnu ar fysiau i gyrraedd y gwaith ac mae cyfanswm o 350,000 o deithiau'n cael eu gwneud.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella ansawdd a hygyrchedd gwasanaethau bysiau lleol. Rydym am weld safonau gwell drwy'r wlad er mwyn annog mwy o bobl i ddefnyddio bysiau a chreu dyfodol cynaliadwy ar gyfer y gwasanaethau.
"Mae ein cynigion i gyflwyno Safonau Ansawdd Bysiau Cymru gwirfoddol cenedlaethol wedi'u datblygu gan y Grŵp Cynghori ar Bolisi Bysiau ac yn seiliedig ar y safon ansawdd a gyflwynwyd yn y de-ddwyrain yn gynharach eleni.
"Bydd yn rhaid i weithredwyr bysiau gyrraedd safonau penodol er mwyn derbyn cyllid Grant Cefnogi'r Gwasanaethau Bysiau."
Yn aelodau o'r Grŵp Cynghori ar Bolisi Bysiau mae cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau a grwpiau o deithwyr a phobl anabl.
Yn ei adolygiad o wasanaethau bysiau a gyflwynwyd i'r Gweinidog Trafnidiaeth, argymhellodd gyflwyno Safon Ansawdd Bysiau Cymru Gyfan.
Mae'r safonau drafft yn cwmpasu tocynnau, prisiau, ansawdd a hygyrchedd cerbydau a gwybodaeth i deithwyr.
I weld yr ymgynghoriad ewch i www.gov.wales/consultations/transport/160107-bus-quality-standard/?skip=1&lang=cy