Mwy o Newyddion
Dylai dyfodol S4C gael ei roi i bleidlais medd AS Plaid Cymru wrth i'r Llywodraeth naddu'r sianel i farwolaeth
Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi galw heddiw ar Arweinydd y Tŷ Cyffredin i ganiatau trafodaeth bellach ar ddyfodol S4C fel y gall Aelodau Seneddol bleidleisio ar y mater.
Mae Liz Saville Roberts hefyd wedi galw ar ei chyd-Aelodau Seneddol Cymreig i uno yn yr ysbryd o undod trawsbleidiol a chefnogi Cynnig Seneddol gan Blaid Cymru, yn galw ar y Prif Weinidog i ddiogelu cyllid S4C, fel yr addawyd gan y blaid Geidwadol yn eu maniffesto.
Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts: “O ystyried bod un ar hugain o Aelodau Seneddol wedi aros i fynu hyd oriau man y bore i drafod dyfodol yr unig ddarlledwr Cymraeg yn y byd, dim ond i gael ymateb hynod arwynebol gan y Llywodraeth, yn sicr dylai fod cyfle i drafod a phleidleisio ar bolisi'r Llywodraeth o naddu’r sianel i farwolaeth?
"Yn ysbryd y cydweithrediad trawsbleidiol a welsom yn y ddadl fore Mercher, rwyf yn annog Aelodau o bob plaid i gefnogi ein galwad, fel y gallwn sicrhau ymdrech gydunol i barhau i bwysleisio pwysigrwydd S4C a'r angen am adolygiad annibynnol o rôl y sianel yn y dyfodol.
"Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio dro ar ôl tro yn erbyn torri parhaus ar gyllideb S4C, sydd wedi cael ei dorri 35% ers i'r llywodraeth ddod i rym yn 2010.
"Mae hyn wedi cael ei waethygu gan benderfyniad y llywodraeth i dorri grant uniongyrchol unwaith eto, y tro hwn o 26%
" Mae Torïaid Cymru wedi torri eu hymrwymiad maniffesto eu hunain a chefnu ar eu haddewid i ddiogelu cyllid ac annibyniaeth golygyddol S4C.”