Mwy o Newyddion
Gweinidog yn dweud y bydd cynlluniau arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer cau llysoedd yn cael effaith andwyol ar gyfiawnder yng Nghymru
Mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, wedi mynegi ei bryderon ynghylch rhaglen arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer cau rhagor o lysoedd yng Nghymru. Nododd ei bryderon mewn llythyr a anfonwyd at y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Gyda’r llythyr, anfonwyd papur a oedd yn rhoi manylion dadansoddiad gan Lywodraeth Cymru o’r effaith ar amseroedd teithio pe byddai’r rhaglen cau llysoedd arfaethedig yn mynd yn ei blaen.
“Mae’r dadansoddiad yn cefnogi pryderon mawr Llywodraeth Cymru ynghylch yr effaith niweidiol y byddai’r broses ddiwygio yn ei chael ar fynediad at gyfiawnder.
"Mae hefyd yn codi pryderon ynghylch dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun a ddefnyddiwyd yn sail i’r cynigion.
Ysgrifennodd Leighton Andrews: “Mae ein dadansoddiad o deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus yn dangos y byddai mwy na 30,000 o aelwydydd ychwanegol yng Nghymru yn wynebu taith o fwy na dwy awr bob ffordd i gyrraedd y llys agosaf pe byddai’r llysoedd dan sylw yn cau.
“Mae’r canfyddiadau’n dangos y byddai hyn yn cael yr effaith fwyaf niweidiol ar ardaloedd gwledig Cymru.
"Er enghraifft, byddai cau’r llys yn Nolgellau yn golygu y byddai 72% o aelwydydd yn wynebu amser teithio o fwy na dwy awr gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, o’i gymharu â 38% ar hyn o bryd.
"Mae Llangefni yn ardal arall y byddai hyn yn cael effaith sylweddol arni, gan y byddai 48% o aelwydydd yn wynebu amser teithio o fwy na dwy awr gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, o’i gymharu â dim un aelwyd ar hyn o bryd.
"Mae ein dadansoddiad yn dangos bod yr effeithiau gryn dipyn yn waeth na’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ragfynegi yn ei phapur ymgynghori.”
Yn y llythyr, mae’r Gweinidog yn gofyn am gadarnhad y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi sylw i’r materion sylweddol sy’n codi o ddadansoddiad Llywodraeth Cymru cyn y gwneir penderfyniadau i gau rhagor o adeiladau llys a thribiwnlys yng Nghymru.