Mwy o Newyddion
Iechyd a gofal cymdeithasol yn rhan hanfodol o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus
Mae cynigion Plaid Cymru ar gyfer ffurf llywodraeth leol yn y dyfodol wedi eu seilio ar yr angen i wella atebolrwydd a chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus, meddai arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood.
Wrth amlinellu cynigion ei phlaid i fireinio cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus ymysg pump neu saith o Awdurdodau Cyfun Rhanbarthol, dywedodd arweinydd y Blaid fod sicrhau darparu ar gyfer integreiddio gwasanaethau gofal iechyd gyda gwasanaethau cymdeithasol ynghyd â mwy o atebolrwydd democrataidd yn bwyntiau hanfodol i Blaid Cymru.
Mae Plaid Cymru yn wastad wedi dweud fod diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn gyfle delfrydol i gyfuno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, meddai Leanne Wood. Dan gynigion ei phlaid hi, byddai modd dwyn iechyd a gofal cymdeithasol dan reolaeth ddemocrataidd awdurdodau lleol. Mae’r cynigion hefyd yn cynnwys cyflwyno’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer pob etholiad.
Dywedodd Leanne Wood: “Mae a wnelo cynigion Plaid Cymru a mwy na llinellau ar fapiau. Canolbwyntio yr ydym ni ar wella atebolrwydd lleol, gofalu ein bod yn mireinio cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus ac yn amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr mewn hinsawdd economaidd ansicr.
“Dylid diwygio gwasanaeth cyhoeddus yn iawn. Os caiff ei ruthro, bydd yn arwain at lanast. Mae cynigion Plaid Cymru yn hybu sefydlogrwydd ac atebolrwydd, ond bydd yn gosod disgwyliad clir ar awdurdodau lleol i gydweithio, mireinio cyflwyno a chynllunio yn fwy strategol. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd fod yn atebol a bydd Plaid Cymru yn gwella eu hatebolrwydd democrataidd trwy gyflwyno system etholiadol decach trwy STV.
“Nid yw llywodraeth leol fel y saif yn addas at y diben. Mae hwn yn gyfle gwych i sicrhau strwythur wnaiff gyflwyno gwasanaethau o safon uchel yn y ffordd orau oll i bobl ym mhob cymuned yng Nghymru.”