Mwy o Newyddion
Gwariant ar wasanaethau canser yng Nghymru ar ei uchaf erioed
MAE ffigurau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddydd Mawrth yn dangos bod yr arian y mae GIG Cymru yn ei wario ar ganser wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed.
Mae Cyllidebau Rhaglen Wariant y GIG ar gyfer 2013-14 yn dangos bod GIG Cymru wedi gwario £5.6bn – sydd gyfystyr â £1,803.82 y person – ar wasanaethau iechyd, gan gynnwys gwasanaethau gofal sylfaenol, fel meddygon teulu a deintyddieth, yn ogystal â gwasanaethau yn yr ysbyty. Mae hyn 2.4% yn uwch nag a wariwyd ar iechyd yn 2012-13.
Mae’r ffigurau’n dangos bod gwariant ar ganser wedi cynyddu o £360.9m yn 2012-13 i £380.1m yn 2013-14. Cynyddodd y gwariant fesul pen o’r boblogaeth o £117.41 i £123.32.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford: “Rwy’n benderfynol o sicrhau bod pob person yng Nghymru yn cael gofal o’r ansawdd gorau. Dyna pam rydyn ni’n buddsoddi mwy na 43% o gyllideb Cymru o £15bn bob blwyddyn ar ein sector iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
“Mae’r ffigurau hyn yn dangos ein bod bellach yn gwario mwy nag erioed ar ofal canser yng Nghymru. Mae hyn yn dangos pa mor benderfynol ydyn ni i fuddsoddi mewn gwasanaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru.”