Mwy o Newyddion
Prif Weinidog yn dechrau arfer o gosbi gweithwyr ar gyflogau isel
Mae llefarydd Plaid Cymru ar faterion lles, Hywel Williams AS, wedi rhybuddio y bydd ‘diwylliant o doriadau’ y Prif Weinidog yn profi’n drychinebus i filoedd o bobl di-waith a rhai ar gyflogau isel fydd yn debygol o ddioddef toriadau i’w credydau treth a thaliadau eraill.
Wrth ymateb i araith y Prif Weinidog ar fwriad llywodraeth San Steffan i wneud £12bn o doriadau lles, condemniodd Mr Williams y rhaglen doriadau gan ddweud y byddai cynydd mewn costau rhentu a swyddi sy’n talu’n wael yn chwyddo, yn hytrach na gostwng, y bil diogelwch cymdeithasol.
Ychwanegodd fod rheoli rhent a chyflwyno cyflog byw ymysg rhai o’r mesurau y mae Plaid Cymru wedi eu harddel er mwyn lleihau costau lles, heb gosbi nid yn unig rhai o unigolion mwyaf bregus cymdeithas ond hefyd miloedd o bobl mewn gwaith sy’n gorfod derbyn credydau treth ar ben eu cyflogau er mwyn medru fforddio byw o un wythnos i’r llall.
Dywedodd Hywel Williams AS: "Mae’r Prif Weinidog yn rhoi bai ar gam i ddiwylliant o hunfoddhad tra’n creu diwylliant newydd o doriadau.
"Os na fydd barn y Ceidwadwyr fod toriadau’n anochel yn cael ei herio, rydym mewn perygl o lyncu’r celwydd nad oes ffordd arall yn bosib.
“Gyda’r Blaid Lafur yn dawel eu beirniadaeth, mae Plaid Cymru ac eraill yn ymddwyn fel y gwir wrthwynebiad i gynlluniau’r llywodraeth yma i gosbi gweithwyr ar gyflogau isel a rhai o unigolion mwyaf bregus cymdeithas.
“Mae Plaid Cymru wedi dadlau o blaid mesurau adeiladol i daclo’r bil lles, megis camau i reoli rhent a chyflwyno cyflog byw.
“Drwy gynyddu’r isafswm cyflog i lefel y cyflog byw erbyn 2020, gallwn godi tua £2.1bn o incwm ychwanegol trwy dreth, ac arbed oddeutu £1.1bn o fudd-daliadau mewn-gwaith.
“Rhaid i ni hefyd gofio am effaith hyn oll ar y genhedlaeth nesaf. Wrth i lywodraeth San Steffan baratoi i gael gwared ar fudd-dal tal i bawb dan 25 oed – beth bynnag fo eu hamgylchiadau, mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i Gronfa Gwarant Swyddi i bobl ifanc.
“Byddai hyn yn sicrhau fod pob person ifanc dan 25 oed yng Nghymru mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant.
“Mae’r holl dystiolaeth yn dangos mai arbrawf ideolegol yw llymder. Bydd diwylliant newydd o doriadau’r Prif Weinidog yn creu cymdeithas dlotach – yn foesol ac ariannol, a bwriad ASau Plaid Cymru yw i herio hyn pob cam o’r ffordd.”