Mwy o Newyddion
Prifysgol yn cloi llywydd allan
Wrth i Y Cymro fynd i'r wasg ddydd Mercher yr wythnos hon, roedd rhai o fyfyrwyr Cymraeg, Prifysgol Aberystwyth, yn dal i feddiannu rhannau o neuadd Gymraeg Pantycelyn.
A nos Fawrth, fe ddaeth y cyhoeddiad fod y brifysgol bellach yn gwrthod mynediad i Swyddfa Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA).
Mae Llywydd newydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth wedi beirniadu Prifysgol Aberystwyth yn hallt, ar ôl darganfod bod y Brifysgol wedi gwrthod mynediad iddi i'w swyddfa, sy'n rhan o Neuaddd Pantycelyn.
Roedd Hanna Medi Merrigan i fod i ddechrau ar ei swydd yr wythnos hon, ond ar ôl ceisio mynd i Swyddfa UMCA a methu cael mynediad, mae wedi cael gwybod gan swyddogion y Brifysgol na fydd modd iddi ddefnyddio ei swyddfa.
Dros y dyddiau diwethaf mae staff o’r Brifysgol wedi gosod cloeon ar nifer o ddrysau mewnol Pantycelyn, ac yn gwrthod mynediad i’r adeilad. Bellach, yr unig fodd o gael mynediad i’r adeilad yw trwy ffenestr – i’r ystafelloedd cyffredin sydd wedi’u meddiannu gan ymgyrchwyr.
“Sarhaus yw’r unig air i ddisgrifio agwedd y Brifysgol tuag at Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth a chynrychiolaeth myfyrwyr," meddai Hanna Medi Merrigan.
"Mae cael gwybod ar fy niwrnod cyntaf yn y swydd bod y Brifysgol yn atal mynediad i’r swyddfa yn hollol annerbyniol.
"Swyddfa UMCA yw hon, nid swyddfa Prifysgol Aberystwyth, ac mae’n hanfodol bod y Brifysgol yn adfer mynediad iddi.
“Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol i fyfyrwyr Cymraeg yn wyneb y bygythiad i ddyfodol Neuadd Pantycelyn," meddai wedyn.
"Rwy’n deall nad oes bwriad gan y myfyrwyr sy’n meddiannu’r adeilad i adael yn fuan, ac rwy’n eu cefnogi 100%. Mae’r Brifysgol yma i wasanaethu myfyrwyr ac mae’n bryd iddyn nhw ddechrau gwrando ar lais y myfyrwyr. Os yw’r myfyrwyr am weld y Neuadd yn parhau, dyna ddylai ddigwydd."
Meddai llefarydd ar rhan y brifysgol: "Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwbl ymroddedig i ddarparu llety dynodedig cyfrwng Cymraeg, ac yn deall ac yn gwerthfawrogi’r angen am gymuned lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad bob dydd, lle gall y rhai sy’n dysgu’r iaith ymgolli mewn cymuned naturiol Gymraeg, a lle mae gweithgareddau diwylliannol Aelwyd Pantycelyn, gweithgareddau Cymdeithasau Cymraeg a gwaith ymgyrchu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn medru ffynnu
"Mae hyn yn rhan o’n treftadaeth ac yn parhau’n greiddiol i’n gweledigaeth i’r dyfodol.
"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu Gweithgor Pantycelyn, a fu’n cynnwys cynrychiolwyr y myfyrwyr, yn ystyried y gwaith sydd ei angen i adnewyddu adeilad Pantycelyn
"Mae adroddiad gan y Gweithgor, gafodd ei gyflwyno i’r Brifysgol ym mis Mai, yn nodi’r galw am fuddsoddiad o rhwng £5.5m ac £11m, gwaith y mae’r Brifysgol yn rhagweld y bydd angen 3 blynedd i’w gyflawni.
"Yn y cyfamser, mae angen buddsoddiad tymor byr o fwy na £1m cyn diwedd y flwyddyn nesaf mewn ymateb i’r asesiad risg tân diweddaraf ac argymhellion Arolwg Cyflwr annibynnol ar yr adeilad.
"Yn sgil adroddiad Gweithgor Pantycelyn a’r angen am fuddsoddiad tymor byr sylweddol, mae’r Brifysgol yn argymell darparu llety penodedig Cymraeg arall ar gyfer cymuned Pantycelyn o fis Medi 2015
"Eisoes mae’r Brifysgol wedi cynnal trafodaethau ac ymweliadau safle gydag UMCA ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i’r llety a’r gofod cymunedol a chymdeithasol a fydd ar gael ar eu cyfer, petai Pantycelyn ddim ar gael.
"Bydd y llety hwn wrth galon campws Penglais ac yn cynnig gofod cymdeithasol a chymunedol hael er mwyn hwyluso parhad yr ymdeimlad o gymuned ar y cyd ymhlith y myfyrwyr.
"Yn y cyfamser, bydd y gwaith o gynllunio dyfodol hir dymor adeilad Pantycelyn yn parhau, a hynny mewn ymgynghoriad llawn gydag UMCA a chynrychiolwyr y myfyrwyr."