Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mehefin 2015

Caerdydd ar drywydd tyfu’n gartref i Wasanaethau Ariannol a Phroffesiynol

Mae Prif-ddinas Ranbarth Caerdydd ar y trywydd i fod un o gartrefi mwyaf cystadleuol y DU ar gyfer y Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol y tu allan i Lundain, meddai Gweinidog yr Economi, Edwina Hart wrth gyfarfod o bobl fusnes heddiw.
 
Dywedodd y Gweinidog wrth y CBI mewn cyfarfod tros frecwast yng Nghaerdydd mai’r ddinas yw un o’r lleoedd sy’n tyfu gyflymaf fel cartref i’r Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol ac i Gymru weld cynnydd o 10% yn y nifer sy’n gweithio yn y sector ers 2005. 
 
Dywedodd Mrs Hart: “O’n holl sectorau blaenoriaeth, y Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol yw’r mwyaf o ran busnesau a swyddi. Y sector hefyd sy’n rhoi’r GVA uchaf am bob awr o waith, felly mae’n amlwg bwysig i lewyrch Cymru yn y dyfodol.
 
“Trwy greu Ardal Fenter Canol Caerdydd, rydym yn dangos ein hymrwymiad i roi Caerdydd ar fap rhyngwladol y Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol a chreu’r amodau sydd eu hangen ar fusnesau i lwyddo.  Mae’r ffigurau mewn-fuddsoddi a gyhoeddwyd wythnos ddiwethaf yn dangos ein bod yn mynd â’r maen i’r wal.  Yn 2014-15, gwelwyd y ffigurau gorau erioed, gyda 101 o brosiectau ar draws yr holl sectorau yn addo creu dros 5,000 o swyddi newydd a diogelu 4,520 o swyddi.
 
“Mae dros 2,000 o’r swyddi newydd hyn yn y Sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, gydag 1,157 wedi’u diogelu.  Ymhlith y cwmnïau sydd wedi buddsoddi yma y mae Cunningham Lindsey UK, Deloitte, FirstSource Solutions, Equiniti ac Optimum Credit yng Nghaerdydd, Griffin Place yng Nghwm-bran ac Arthur J Gallagher yn Llantrisant.
 
“Mae Caerdydd ar drywydd tyfu i fod y ddinas fwyaf cystadleuol y tu allan i Lundain ar gyfer y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. Fel Llywodraeth sydd o blaid busnes, byddwn yn parhau i weithio i greu’r amodau sydd eu hangen i wneud hynny.” 
 

Rhannu |