Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Mehefin 2015

Bugail wedi ei benodi ar gyfer prosiect Eryri

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru wedi penodi bugail arall i gefnogi ei phrosiect cadwraeth arloesol ar odre’r Wyddfa yng Ngogledd Cymru. 

Bydd Daniel Jones, 36 oed, o Ynys Môn yn cynorthwyo'r bugail presennol, Bryn Griffiths, ar fferm yr elusen gadwraeth, Hafod-y-Llan, i ofalu am y praidd o 1,600 o ddefaid Mynydd Cymreig yn ystod golau dydd am y pum mis nesaf.

Bydd ei ddau gi defaid, Jil a Nel, yn ymuno ag ef.

Bydd y gwaith yn cynnwys gyrru'r praidd i lecynnau pori ymhell oddi wrth gynefinoedd mynydd sensitif er mwyn gwella amrywiaeth y planhigion ar y mynydd.

Magwyd Daniel ar fferm ddefaid fechan ei deulu ac astudiodd amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn gweithio fel cneifiwr contract. Ers chwe blynedd, mae wedi bod yn rhedeg ei fferm ddefaid ei hun ar Ynys Môn

 Meddai: “Mae'r gwaith hwn yn unigryw oherwydd bydd yn golygu bod gennym rôl fugeilio lawn amser ar y mynyddoedd. 

"Mae’n rhaid gwylio'r defaid yn ystod golau dydd (a allai fod tan 11pm yng nghanol yr haf), er mwyn ceisio sicrhau nad yw cynefinoedd sensitif yn cael eu pori, ac mae gennym gyfle gwych i wella bioamrywiaeth planhigion.  Mae hon yn enghraifft dda o ffermio a chadwraeth yn cydweithio law yn llaw.

“Bydd hon yn ffordd hollol newydd o fugeilio i mi oherwydd y math gwahanol o dir a'r ddaear agored.  Bydd yn rhaid i'r cŵn ddefnyddio'u pen yn fwy o lawer nag yn y gwaith maes arferol a bydd yn her go iawn oherwydd hynny.

“Rwyf hefyd yn disgwyl yn eiddgar am weithio yn Hafod-y-Llan, cyfarfod pobl newydd a gweld canlyniadau'r prosiect a'i effaith ar y tyfiant ar y mynydd, a systemau ffermio modern.”

Prif rôl Daniel fydd cynorthwyo gyda’r gwaith bob dydd o fugeilio'r defaid, gan ddefnyddio technegau traddodiadol a mynd o gwmpas ar gerdded a gweithio gyda chŵn defaid.

Ychwanegodd y bugail cadwraeth presennol, Bryn Griffiths: “Dros y pum mlynedd nesaf gobeithio y gwelwn newidiadau cadarnhaol ar y mynyddoedd gyda grug a phlanhigion, yn cynnwys llafn y bladur a llus ffrwytho, yn dychwelyd i'r mynyddoedd.

“Mae hwn yn enghraifft o gadwraeth go iawn ar waith a dylwn weld gwelliannau nid yn unig yn y tyfiant ar y mynydd, ond rydym hefyd yn mesur yr effaith ar y praidd.  Byddwn hefyd yn dysgu llawer mwy am ‘gadw at gynefin', sef y greddfau sydd gan ddefaid ar y mynydd i aros mewn ardal benodol.

“Y buddion allweddol i'r defaid yw y byddant yn cael eu monitro bob dydd.  Mae hyn hefyd yn atgoffa’r holl bobl hynny sy’n cerdded Llwybr Watcyn i gopa'r Wyddfa, mewn ffordd weledol iawn, mai tirwedd gweithio yw hwn.”

Saif Hafod-y-Llan yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol yr Wyddfa a Natura 2000.  Bydd angen rhywun i lenwi swydd Daniel bob haf nes i'r prosiect pum mlynedd ddod i ben ym mis Hydref 2018.

Caiff y prosiect bugeilio cadwraeth pum mlynedd a gychwynnodd y llynedd ei ariannu’n rhannol gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Daniel Jones a Bryn Griffiths  Llun gan Gerallt Llewelyn

Rhannu |