Mwy o Newyddion
Mynd ag ymgyrch achub Pantycelyn i San Steffan
Mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards AS, wedi mynd ag ymgyrch achub neuadd preswyl Pantycelyn yn Aberystwyth i Senedd San Steffan drwy osod Cynnig Bore Cynnar yn y Tŷ Cyffredin.
Dywedodd Mr Edwards, a dreuliodd dair blynedd ym Mhantycelyn tra’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, y byddai cau’r neuadd yn “bradychu” ethos y sefydliad ac yn achos trist o gloi pennod bwysig yn hanes diwylliant a’r iaith Gymraeg.
Mae’r Cynnig Bore Cynnar wedi ei gyd-noddi gan gyfoedion Mr Edwards ym Mhlaid Cymru, Hywel Williams AS a Liz Saville Roberts AS, ynghyd ag ASau Cymreig o bleidiau eraill.
Dywedodd Mr Edwards: “Mae Neuadd Pantycelyn wedi chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo diwylliant a’r iaith Gymraeg o fewn Prifysgol Aberystwyth.
“Wedi treulio tair blynedd hapus fel preswylydd yn y neuadd yn ystod fy nghyfnod yn Aberystwyth, gwn fod gan Bantycelyn rôl unigryw ym mywyd myfyrwyr y dref.
“Mae’n bwysig nodi fod gan y Brifysgol ddyletswydd i hyrwyddo’r iaith Gymraeg dan ei Siarter Brenhinol. Mae hi’n anodd gweld sut y byddai’r dyletswydd hwn yn cael ei gyflawni pe bai Pantycelyn yn cau unwaith ac am byth.
“Yn wir, rwy’n credu y byddai penderfyniad o’r fath yn bradychu ethos y sefydliad.
“Rwy’n edmygu ymdrechion y myfyrwyr sy’n amddiffyn eu neuadd gyda’r fath angerdd a dyfalbarhad, ac rwyf am iddynt wybod nad ydynt ar eu pen eu hunain.
“Heb os, mae’r neuadd angen gwaith atgyweirio. Yn sgil hynny, mae’r Cynnig hefyd yn galw ar Gyngor y Brifysgol i dderbyn argymhellion eu grwp gweithredol eu hunain ar ddyfodol Pantycelyn, ac i glustnodi a gwarchod y neuadd ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn dilyn cwblhau’r gwaith hynny.
"Mae Pantycelyn yn fwy nag adeilad, mae’n sefydliad. Wrth i’r ymgyrch godi stem, fy mwriad yw i’w gefnogi pob cam o’r ffordd ac rwy’n annog eraill i wneud yr un fath.”