Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/Pantycelyn2.jpg)
Pantycelyn: ffordd ymlaen
Yn dilyn trafodaethau hir a dwys, mae Syr Emyr Jones Parry, Canghellor Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd y Cyngor wedi cytuno i gyflwyno cynnig sydd wedi ei gytuno ag UMCA ac Undeb y Myfyrwyr, i gyfarfod y Cyngor ddydd Llun 22 Mehefin, sydd yn cynnig ffordd ymlaen ar ddyfodol Pantycelyn.
Mae’r testun yn atgyfnerthu ymrwymiad y Brifysgol i’r iaith Gymraeg a darpariaeth llety myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn Aberystwyth, ac i broses i weithredu ei bwriad i ail agor Pantycelyn o fewn pedair blynedd i’r pwrpas hwn.
Mae’r Brifysgol gan gynnwys aelodau staff cyfrwng Cymraeg, UMCA ac Undeb y Myfyrwyr, yn croesawu’r datblygiad hwn ac yn edrych ymlaen at barhau gyda’r trafodaethau adeiladol ar ddyfodol Pantycelyn a darpariaeth llety cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.