Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Mehefin 2015

Bydd addewid Lloegr am recriwtio meddygon teulu yn gadael Cymru ar ei hôl hi

Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio y bydd ymrwymiadau i recriwtio mwy o feddygon teulu yn Lloegr yn gadael Cymru ar ei hôl hi.

Tynnodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones sylw at ffigyrau oedd yn dnagos fod gan Gymru lai o feddygon y pen o boblogaeth na chyfartaledd y DG, a dywedodd, os bydd y Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn parhau i wrthod gweithredu cynllun Plaid Cymru i hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol i’r GIG yng Nghymru, yna fe adewir Cymru ar ei hôl hi.

Mae llywodraeth y DG heddiw wedi cyhoeddi y bydd yn recriwtio 5,000 yn ychwanegol o feddygon teulu i’r GIG yn Lloegr.

Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones: “Dyw hi ddim yn gyfrinach fod Cymru yn wynebu argyfwng o ran recriwtio meddygon teulu. Mae gennym lai o feddygon y pen o boblogaeth na’r DG, a gyda chwarter y meddygon teulu yng Nghymru yn nesáu at oedran ymddeol, gallai ein GIG fod yn wynebu her nas gwelwyd ei bath o’r blaen.

"Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu eu hunain wedi galw am lawer o welliannau i’r ffordd y mae Cymru yn hyfforddi ac yn recriwtio meddygon teulu os ydym am ymdrin â’r her yma, ond hyd yma, does dim wedi digwydd.

“Mae Plaid Cymru wedi datgan ers amser ei chynlluniau i hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon yn ychwanegol i’r GIG yng Nghymru, gyda chanolbwynt arbennig ar recriwtio i ardaloedd lle mae’n anodd cyflogi, sydd yn cynnwys meddygon teulu yn rhannau gwledig a difreintiedig Cymru. Mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn gyson wedi gwrthod mabwysiadu’r syniadau arloesol hyn i drin prinder meddygon teulu yn rhai rhannau o Gymru.

“Nawr y bydd Lloegr yn mabwysiadu cymhellion ariannol i feddygon teulu, bydd yn galetach fyth i Gymru ddenu meddygon, a allai arwain at gau mwy o wasanaethau, mwy o bobl mewn adrannau brys, a mwy o bobl yn aros yn hwy i weld meddyg teulu. Rhaid i Lafur weithredu os ydym am gael GIG all gwrdd ag anghenion cleifion yn y dyfodol.

“Er bod Llafur yn gwrthod edrych ar ffyrdd newydd ac ymarferol o wella ein gwasanaeth iechyd, bydd Plaid Cymru yn parhau i weithio i arbed a chryfhau’r GIG yng Nghymru.”

Rhannu |