Mwy o Newyddion
Cadwch y momentwm - gwnewch M4 gwell yn flaenoriaeth
Bydd newid llywodraeth ym Mai 2016 yn gyfle i gael dewis rhatach, cyflymach a gwell i gynlluniau’r Llywodraeth Lafur i afradu £1 biliwn ar ddarn newydd o’r M4 o gwmpas Casnewydd, mynnodd Plaid Cymru.
Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth y byddai Plaid Cymru mewn llywodraeth yn edrych eto ar bob dewis sydd ar gael i liniaru tagfeydd ar yr M4 o gwmpas Casnewydd gyda’r bwriad o ddod i benderfyniad cynnar fel y gall y gwaith gychwyn.
Mae dewis lwybr Plaid Cymru yn debyg o arbed tua £400 miliwn o gymharu â chynllun y llywodraeth – arian y gellid ei fuddsoddi mewn trafnidiaeth ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth: “Mae’r M4 o gwmpas Casnewydd yn achos pryder enbyd.
"Mae’r tagfeydd traffig sy’n digwydd yno bob dydd yn boendod beunyddiol i yrwyr, ac yn achosi trafferth i berchenogion busnes. Ond does dim rhaid afradu £1 biliwn arni pan fo dewisiadau gwell ar gael.
“Gallai’r cynlluniau sy’n cael eu ffafrio gan Blaid Cymru gael eu cyflwyno ynghynt na chynnig y llywodraeth, a byddent yn caniatáu i ni fuddsoddi mewn gwella’r seilwaith mewn rhannau eraill o Gymru, fel yr A55 a chludiant cyhoeddus.
“Rydym eisiau rhoi diwedd ar y diflastod traffig o gwmpas Casnewydd, ond gwyddom fod dewis rhatach, cyflymach a gwell na’r hyn mae Llafur yn gynnig.”