Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Mehefin 2015

Y côr-feistr teledu, Gareth Malone yn cyflwyno côr newydd yn Llangollen

Bydd côr-feistr mwyaf poblogaidd Prydain yn arddangos ei gôr newydd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni.

Mae Gareth Malone OBE, y meddwl y tu ôl i enwogrwydd côr y ‘Military Wives’, yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r uchafbwynt hwn.

Dywedodd: “Rwy’n hynod gyffrous am ymweld â Llangollen a mwynhau awyrgylch unigryw'r ŵyl. Mae gymaint o hanes yn Llangollen, ni allaf feddwl am unrhyw ŵyl yn Lloegr sy’n cymharu neu’n dod yn agos at gymharu.

“Rwyf wedi ymweld â’r Eisteddfod unwaith o’r blaen, ond roeddem yn ffilmio The Choir: Sing While you Work ac roedd hi mor brysur wrth ffilmio, fel na chefais gyfle i weld gymaint o’r ŵyl ag y byddwn wedi hoffi.

“Bydd hwn yn un o berfformiadau cyntaf fy nghor Voices newydd. Rydym yn cychwyn taith o’r DU ym mis Tachwedd, ac rwyf wedi cynnal clyweliadau a sefydlu côr newydd sbon ar gyfer eleni, er bod rhai o gantorion y llynedd yn dal gyda mi.”

Dywedodd Gareth ei fod eisiau newid ei gôr ar gyfer eleni er mwyn creu elfen o gospel ond nid y gallu i ganu yw’r unig beth mae’n edrych amdano.

Dywedodd: “Rwy’n edrych am dri pheth, yn gyntaf, y gallu i ganu, y llais. Yn ail, mae’n cynnwys sgil. Ydi, mae nifer o bobl yn gallu canu ond nid oes ganddynt y sgil i harmoneiddio, i addasu. Yn drydydd, personoliaeth.

“Mae fy holl waith yn cynnwys dod â phobl at ei gilydd. Ac o ran perfformiad byw, rwy’n dod o hyd i 16 llais, wyth gŵr ac wyth merch, i gyd yn gweithio gyda’i gilydd tuag at un gôl gyffredin, anhygoel.

“Mae rhywbeth mor hyfryd amdano ac rwyf wrth fy modd. Mae’n fy niddanu bob dydd. Ac mae cerddoriaeth yn flaenllaw. Pan mae diplomyddiaeth yn methu, bydd cerddoriaeth yn aml yn llwyddo i barhau i ddod â phobl at ei gilydd.”

Derbyniodd Gareth, myfyriwr llais yn y Coleg Cerdd Brenhinol, OBE yn 2012 am ei wasanaeth i gerddoriaeth, ac mae’n debyg ei fod yn fwyaf adnabyddus am raglenni teledu fel The Choir ac The Choir: Military Wives, ensemble o wragedd a phartneriaid personnel y lluoedd arfog oedd yn gwasanaethu yn Afghanistan.

Roedd eu cân, ‘Wherever You Are’, yn gerdd serch a grëwyd o lythyrau rhwng y merched a’u gwŷr a’u partneriaid, a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan y cyfansoddwyr a aned yn Llanelwy, Paul Mealor. Roedd y gan yn rhif un yn y siartiau dros Nadolig 2011.

Ym mis Tachwedd 2014, roedd Gareth yn ôl ar frig y siartiau gyda grŵp o sêr y bu yn eu mentora gyda’r sengl elusen i Blant mewn Angen, Wake Me Up, trefniant o gân a recordiwyd yn wreiddiol gan act ddawns o Sweden.

Dywedodd: “Rwy’n gobeithio dod ag ambell i syrpreis i Langollen a rhoi rhywbeth arbennig i’r gynulleidfa. 

“Gallant ddisgwyl unrhyw beth o William Byrd i Queen a U2 neu Dire Straits i gyfansoddwyr corawl fel Eric Whitacre.

“Rydym yn gweithio ar ddatblygu repertoire eang a bydd rhai dewisiadau’n synnu cynulleidfa, ond byddant wrth eu boddau. Ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at roi rhywbeth at ei gilydd gyda fy nghôr Voices fy hun, a rhai o’r cantorion o’r corau sy’n cystadlu.

“Bydd yn rhywbeth arbennig iawn, yn noson wych ac rwyf i a’m côr Voices yn hynod o gyffrous am Langollen. Bydd yn noson hudolus iawn.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerddorol yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths, ei fod yn edrych ymlaen at groesawu Gareth Malone.

Dywedodd: “Mae Gareth wedi dod yn sefydliad cenedlaethol, a hynny yn haeddiannol iawn. Mae wedi gwneud gymaint i wneud cerddoriaeth gorawl yn flaenllaw ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at wrando ar ei gôr Voices.

“Mae digwyddiad a chystadleuaeth nos Sadwrn, Côr y Byd, yn uchafbwynt wythnos o gystadlu ac mae bob amser yn gyngerdd ac yn noson rwy’n ei mwynhau’n arbennig.

“Mae’r safon bob amser mor uchel, sydd yn ddisgwyliedig gan un o brif gystadlaethau corawl y byd.

“Mae cael talent a dawn ddiamheuol Gareth ar lwyfan Llangollen yn wych ar gyfer y digwyddiad a’r ŵyl ar y cyfan, ac rwy’n siŵr y bydd yn noson hyfryd dros ben.”

Ymysg uchafbwyntiau Eisteddfod eleni bydd  cyngerdd nos Iau lle bydd y tenor nodedig Alfie Boe yn cael cwmni Jonathan Antoine, seren Britain’s Got Talent, ar lwyfan yr Wyl.

Mae enwau eraill mawr yn cynnwys Burt Bacharach, sydd ag Oscar i'w enw, y canwr a’r cerddor o Ganada Rufus Wainwright a’r gyn-delynores frenhinol, Catrin Finch.

Ar gyfer y cyngerdd olaf ar Orffennaf 12, bydd Ali Campbell, llais UB40 sydd wedi gwerthu 70 miliwn o recordiau, yn camu ar lwyfan yr Eisteddfod i ailymuno â dau o aelodau cynnar a sefydlodd y grŵp, sef yr offerynwr taro, chwaraewr trymped a’r canwr Astro, a’r chwaraewr bysellfwrdd Mickey mewn cyngerdd a noddir gan Village Bakery.

Bydd Diwrnod y Plant a Gorymdaith y Cenhedloedd ar y dydd Mawrth, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite, yn digwydd ar y prynhawn dydd Mawrth gyda chyngerdd Calon Llangollen i ddilyn gyda’r hwyr.

Bydd rhaglen dydd Mercher yn cynnwys cystadleuaeth newydd ar gyfer Cerddor Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn ynghyd â Chôr Plant y Byd tra bydd cystadlaethau dydd Iau yn gweld carreg filltir arall, sef  Tlws Llais Rhyngwladol Theatr Gerddorol.

I archebu tocynnau a chael mwy o fanylion am ŵyl 2015 ewch i’r wefan yn www.international-eisteddfod.co.uk

Rhannu |